Bil Pysgodfeydd y DU yn gyfle coll i'r diwydiant pysgota yng Nghymru

Cyhoeddwyd 12/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/02/2019

Ni fydd y diwydiant pysgota yng Nghymru mewn sefyllfa well oni bai y gwneir newidiadau i gyfraith arfaethedig newydd gan Lywodraeth y DU, yn ôl Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol.



Ar hyn o bryd, mae gan Gymru hawl i un y cant yn unig o gyfanswm cwota pysgota'r DU o dan y Concordat Pysgota; cytundeb a ddefnyddir i rannu cwota pysgota'r DU rhwng Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru.

Bydd Bil Pysgodfeydd y DU, os caiff ei basio, yn creu dull cyffredin o ran rheoli pysgodfeydd ar draws y DU. Mae angen hyn oherwydd y bydd y DU yn gadael Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yr UE ar ôl Brexit.

Ond mae'r Pwyllgor wedi beirniadu'r methiant i fynd i'r afael â dosbarthiad annheg presennol y cwota y mae'n dweud ei fod yn atal y diwydiant pysgota yng Nghymru rhag datblygu.

Ers amser maith, mae cynrychiolwyr y diwydiant wedi galw am newid yn y ffordd y dosberthir y cwota er mwyn sicrhau bod Cymru yn cael cyfran decach.

Cafodd y Pwyllgor adroddiadau bod pysgotwr Cymru yn gorfod sefyll ar y cei, yn methu mynd i'r môr i ddal pysgod, oherwydd nad oes ganddynt y cwotâu a'u bod yn gorfod gwylio llongau o wledydd eraill yn mynd â'r pysgod hynny, ac mae'n rhaid bod hynny'n annheg.

Er bod llawer o bobl yn ystyried bod Brexit a Bil y DU yn gyfle i unioni anghyfiawnderau'r system bresennol ar gyfer dyrannu'r cwota, nid yw'r Bil yn ymdrin â'r mater hwn. A hynny er bod Llywodraeth y DU wedi addo symud tuag at system decach o ran cwota.

Dywedodd y Pwyllgor nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon i sicrhau gwelliannau yng nghyfran cwota Cymru. Mae'n rhybuddio Llywodraeth Cymru rhag hunanfodlonrwydd ac yn galw ar y llywodraeth i gymryd rhagor o gamau cadarn ar y mater hwn.

“Bydd gadael y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn gyfle unigryw i'r DU a Chymru ailystyried eu dull gweithredu o ran polisi pysgodfeydd,” dywedodd Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

“Er mwyn achub ar y cyfleoedd hyn, mae'n hanfodol mynd i'r afael â dyraniad cwota presennol Cymru, yr ydym yn credu ei fod yn sylfaenol annheg.

“Rydym yn dra siomedig bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu na fydd y mater hwn yn cael ei ddatrys wrth i'r DU adael yr UE. Oni bai y caiff y mater hwn ei ailystyried, prin fydd y manteision i bysgodfeydd Cymru sy'n codi o Brexit.”

O dan Fil Pysgodfeydd y DU, bydd Llywodraeth y DU yn gwneud cyfreithiau sy'n effeithio ar feysydd datganoledig i Gymru, sy'n golygu bod rhaid iddi ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol am ganiatâd i wneud hynny dan yr hyn a elwir yn Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

Y Bil Pysgodfeydd yw'r Bil cyntaf sy'n codi o Brexit sy'n ddarostyngedig i'r Cytundeb Rhynglywodraethol, a wnaed gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau y caiff cyfreithiau neu fframweithiau sy'n effeithio ar feysydd datganoledig eu datblygu ar y cyd.

Ond canfu'r Pwyllgor nad oedd fawr ddim cydweithredu cyn cyflwyno'r Bil. Hefyd, bydd cyfle Llywodraeth Cymru i geisio diwygio'r Bil yn gyfyngedig gan ei fod yn mynd drwy Senedd y DU.

Mae'r Pwyllgor yn credu bod hyn yn annerbyniol ac nid yw'n glir a oedd y diffyg cydweithredu hwn o ganlyniad i ddiffygion yn y Cytundeb Rhynglywodraethol, neu fethiant y naill lywodraeth neu'r llall i ymgysylltu.

Daeth yr aelodau i'r casgliad nad yw hyn yn argoeli'n dda o ran gweithredu darpariaethau allweddol Bil y DU, a'u gweithredu'n llwyddiannus yn barhaus, sy'n dibynnu ar gydweithio a chydweithredu rhynglywodraethol.

Dywedodd Mr Hedges:

“Dylai Llywodraeth Cymru esbonio pam nad yw wedi gallu cyflawni ymrwymiadau a roddwyd ganddi o'r blaen i'r Pwyllgor hwn mewn perthynas â datblygu fframweithiau cyffredin y DU.

“Yn benodol, dylai esbonio pam na ddatblygwyd Bil y DU mewn cydweithrediad a pham na chafodd rhanddeiliaid eu cynnwys yn ddigon cynnar wrth ei ddatblygu.”

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cydsyniad i Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil Pysgodfeydd y DU, ond mae'n nodi nifer o amodau y dylid eu bodloni ymlaen llaw.