Bil y Farchnad Fewnol: Bil sy'n cyfyngu ar ddeddfwriaeth Gymreig effeithiol ac yn ceisio ailganoli rheolaeth i San Steffan

Cyhoeddwyd 24/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/09/2020

Heddiw, mae Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd wedi cyhoeddi datganiad ar Fil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU - Bil sy’n nodi cynigion ar gyfer rheoli masnach ar draws y DU gyfan yn dilyn ei hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r datganiad yn dilyn tystiolaeth gan Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, i’r pwyllgor ddydd Llun.

Yn groes i naratif Llywodraeth y DU, mae’r Pwyllgor o’r farn nad oes darpariaethau yn y Bil sy’n rhoi pwerau newydd i'r Senedd – i’r gwrthwyneb, mae’n nodi’n benodol feysydd newydd fel rhai sydd y tu allan i bwerau'r Senedd.

Dywedodd Mick Antoniw AS, Cadeirydd Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y canlynol:

“Rydym yn cydnabod ac yn cefnogi’r angen am farchnad fewnol yn y DU ar ôl gadael yr UE. Ond nid y Bil hwn, fel y mae wedi'i ddrafftio, yw'r ffordd o gyflawni'r amcan hwnnw. Y fframweithiau cyffredin y mae pob llywodraeth wedi bod yn gweithio ac yn cydweithredu arnynt ers 2017 yw’r dull cywir.”  

“Fel y mae, gall y Bil greu isadran ddiangen ac mae’n ymddangos ei fod yn ymgais i ailganoli rheolaeth i San Steffan. Mae'n tanseilio'r ymddiriedaeth a'r ewyllys da rhwng llywodraethau, sy'n ymyriad digroeso yng nghanol pandemig byd-eang. Rydym yn annog Llywodraeth y DU i ailystyried telerau'r Bil.”

Sut y gallai Bil y Farchnad Fewnol weithio'n ymarferol

Un enghraifft o’r ffordd y gallai’r Bil weithio yw os yw deddfwriaeth y Senedd yn gwahardd gwerthu bwyd wedi ei addasu yn enetig (GM) yng Nghymru, ond nid oes gwaharddiad o'r fath yn Lloegr. Byddai egwyddor ‘cydnabyddiaeth gilyddol‘ yn golygu y byddai'n gyfreithlon i gynhyrchwyr yn Lloegr werthu bwyd GM yng Nghymru, er gwaethaf y gwaharddiad yma. Fel y cyfryw, bydd y Bil yn sefydlu terfyn yn y cyfansoddiad ar y graddau y mae deddfwriaeth y Senedd mewn grym.

Mae'r Bil hefyd yn rhoi pŵer i Lywodraeth y DU ddarparu cymorth ariannol mewn unrhyw ran o'r DU i hyrwyddo blaenoriaethau Llywodraeth y DU, yn hytrach na blaenoriaethau datganoledig.

Bydd y Pwyllgor yn parhau i drafod y Bil a'i oblygiadau i Gymru yn ystod yr wythnosau nesaf.