Blaenoriaethau rheilffyrdd rhanbarthol yn cael eu hamlinellu gan bwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 24/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/04/2016

Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi amlinellu blaenoriaethau rhanbarthol i wella gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.

Daeth y Pwyllgor Menter a Busnes i'r casgliad y bydd penderfyniadau a wneir yn y chwe mis nesaf yn cael effaith hollbwysig ar rwydwaith trafnidiaeth Cymru, ac o ganlyniad ar ffyniant a safon bywydau pawb sy'n byw ac yn gweithio yma.

 

Mae nifer y teithiau teithwyr wedi cynyddu oddeutu hanner yng Nghymru, o ychydig yn llai nag 20 miliwn o deithiau yn 2003-04 i oddeutu 30 miliwn yn 2014-15.

Wrth gyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor, roedd Network Rail yn rhagweld y bydd niferoedd teithwyr yng Nghymru yn parhau i gynyddu yn y dyfodol. Er enghraifft, gallai nifer y teithwyr sy'n teithio i Gaerdydd ar gyfer gwaith gynyddu 144 y cant rhwng 2013 a 2043.

Hefyd, erbyn 2043, mae'n disgwyl gweld cynnydd o 151 y cant yn niferoedd y teithwyr yn teithio rhwng arfordir gogledd Cymru a Llundain, a chynnydd o 77 rhwng gogledd a de Cymru.

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai'r canlynol fod yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, cwmnïau trenau, Network Rail a phartneriaid eraill y rheilffyrdd:

Gogledd Cymru

  • Creu cynllun busnes cynhwysfawr a grymus ar gyfer trydaneiddio yn y Gogledd i Lywodraeth y DU ei gyflawni a'i ariannu yn unol â'i chyfrifoldebau statudol; a
  • Mynediad o Ogledd Cymru i feysydd awyr yn Lloegr.

Canolbarth a Gorllewin Cymru

  • Gwella gwasanaethau yn y Canolbarth, yn enwedig cysylltiadau gwell rhwng Aberystwyth a Chanolbarth Lloegr a rhwydwaith rheilffyrdd ehangach y DU.

De Cymru

  • Dylai Llywodraeth Cymru ofyn am sicrwydd absoliwt y bydd trydaneiddio Prif Reilffordd De Cymru yn parhau fel un prosiect di-dor yr holl ffordd i Abertawe; ac
  • Datblygu cynllun trylwyr ar gyfer Gorsaf Caerdydd Canolog, ynghyd â gwelliannau angenrheidiol i'r cledrau a'r arwyddion er mwyn creu gorsaf sy'n addas ar gyfer prifddinas yn yr unfed ganrif ar hugain.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn argymell y dylai prif reilffyrdd y Gogledd a'r De, gan gynnwys y llinellau lliniaru, gael eu cynyddu i'r lled llwytho mwyaf ar gyfer trenau nwyddau, ac y dylai Llywodraeth Cymru barhau i bwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau nwyddau o ran trydaneiddio llawn ar gyfer rheilffordd Bro Morgannwg, ac mai Llywodraeth y DU ddylai dalu am hyn.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, William Graham AC:

"Mae'n amlwg bod gan Gymru nifer o anghenion. Ar hyn o bryd, ni yw un o'r prin wledydd yng Ngorllewin Cymru heb yr un cilometr o reilffordd wedi'i thrydaneiddio.

"Bydd hyn yn newid, ond mae oedi peirianyddol a chyllid cyfyngedig yn golygu y bydd yn rhaid i Gymru frwydro, cymell a chydweithio er mwyn cael popeth rydyn ni eisiau ei weld.

"Dros y misoedd nesaf, bydd angen i wleidyddion a chwmnïau trenau Cymru siarad ag un llais uchel a chlir i hyrwyddo anghenion y genedl, a sicrhau cyllid fel bod Cymru yn gallu chwarae rôl lawn yn adfywiad rheilffyrdd y Deyrnas Unedig.

"Gan gofio hyn, mae'r Pwyllgor wedi amlinellu'r hyn y mae'n credu yw'r prif flaenoriaethau ar draws rhanbarthau Cymru."

Hefyd, ystyriodd y Pwyllgor faterion ynghylch cyllid, dyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, gwasanaethau trawsffiniol a rôl Network Rail yng Nghymru. Gwnaeth gyfanswm o 18 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru gynyddu ei ymdrechion i ddatblygu cydberthynas drawsffiniol allweddol gyda chyrff chynllunio a chyflenwi rheilffyrdd datganoledig a rhanddeiliaid allweddol eraill yn Lloegr;
  • Wrth drafod manylion datganoli cyfrifoldebau'r fasnachfraint, rhaid i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth yn y drafodaeth â'r DU i sicrhau bod masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau yn cynnwys llwybrau poblogaidd a phroffidiol sy'n hanfodol i deithwyr; a
  • Bod dadl gref dros newid deddfwriaethol i ddatganoli cyfrifoldeb dros gyllid Network Rail i Gymru fel y mae yn yr Alban.
Blaenoriaethau ar gyfer dyfodol Seilwaith Rheilffyrdd Cymru (PDF, 1.34MB)