Brwydr rhwng Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol mewn gêm rygbi elusennol

Cyhoeddwyd 13/03/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Brwydr rhwng Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol mewn gêm rygbi elusennol

13 Mawrth 2013

Bydd tîm rygbi sy'n cynrychioli Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn chwarae yn erbyn tîm sy'n cynrychioli Senedd y DU mewn gêm elusennol ddydd Sadwrn (16 Mawrth).

Caiff y gêm ei chynnal ar faes Clwb Rygbi Quins Caerdydd, Forest Farm Road, yr Eglwys Newydd, am 11 o’r gloch. Nid oes tâl mynediad i'r gêm, ond gwneir casgliad tuag at Bowel Cancer UK.

Yn ystod y gêm bydd Andrew RT Davies AC, Arweinydd Grwp Ceidwadwyr Cymru yn y Cynulliad benben ag Alun Cairns a Stephen Crabb, yr Aelodau Seneddol Ceidwadol.

Hon fydd y seithfed gêm rygbi elusennol i gael ei chynnal rhwng timau o'r Cynulliad a thimau o Dy'r Cyffredin a Thy'r Arglwyddi, ac mae'r timau'n gyfartal fwy neu lai ar hyn o bryd gyda'r naill ochr a'r llall wedi ennill dwy gêm ac wedi chwarae dwy gêm gyfartal.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Noddwr Anrhydeddus Clwb Rygbi'r Cynulliad Cenedlaethol: “Cynhelir mwy nag un gêm rygbi o bwys ddydd Sadwrn.

“Rwy'n tybio y bydd taclo brwd yn ystod y gêm hon, wedi'r cyfan, bydd y naill dîm a'r llall yn awyddus i ennill clod am orchfygu'r gwrthwynebwyr.

“Ers i dîm rygbi'r Cynulliad chwarae ei gêm gyntaf, mae wedi codi ymhell dros £10,000 ar gyfer elusen Bowel Cancer UK, felly hoffwn annog unrhyw un sy'n rhydd, i ddod draw i gefnogi'r ymdrech lew hon i godi arian.”