“Busnes fel arfer” chwe mis ar ôl datgan 'argyfwng hinsawdd'

Cyhoeddwyd 18/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Chwe mis ar ôl i Lywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd, mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mynegi siom nad yw'r camau a gafodd eu haddo yn y cyhoeddiad wedi dod i'r fei. Yn hytrach, mae’n dweud mai "busnes fel arfer" fu hi.

Heddiw (Rhagfyr 18) mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei ail adroddiad blynyddol ar gynnydd Llywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Ffocws gwaith y Pwyllgor yn 2019 fu cynllun datgarboneiddio Llywodraeth Cymru, sef “Ffyniant i Bawb: Cymru carbon isel”.

Ffyniant i Bawb: Cymru carbon isel

Mae'r Pwyllgor wedi codi pryderon bod nifer o’r polisïau a'r cynigion yng Nghynllun Llywodraeth Cymru, 76 i gyd, yn bodoli ymhell cyn iddi ddatgan argyfwng hinsawdd. 

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor na all fod yn benodol ynglŷn â chost y polisïau hynny na'u heffaith ar leihau allyriadau. Yn niffyg gwybodaeth o'r fath, roedd y Pwyllgor yn ei chael yn anodd gweld sut y gall Llywodraeth Cymru asesu effaith neu werth am arian y polisïau datgarboneiddio hyn. Mae aelodau wedi mynegi siom yn y gorffennol am fethiant Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar ddatgarboneiddio wrth graffu ar ei Chyllideb ddrafft. 

Targed sero-net

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am fynd ymhellach na’i tharged newydd, sef gostyngiad allyriadau 95%, a’i bod yn dyheu am gyrraedd sero-net erbyn 2050. Fodd bynnag, mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU wedi dweud na allai gyrraedd nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2050 yn ôl y ddealltwriaeth bresennol. Mae'r Pwyllgor yn cwestiynu pa mor gyraeddadwy yw'r ‘dyhead’ hwn. Mae hyn yn arbennig o wir o ystyried faint o allyriadau sydd mewn meysydd heb eu datganoli.

Faint y gall Llywodraeth Cymru ei gyflawni mewn gwirionedd?

Mae’r cyfrifoldeb am allyriadau carbon wedi’i rannu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol am 60% o’r meysydd polisi, fel ynni, sy'n gyfrifol am allyriadau Cymru. Mae’r Pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn fwy gonest ynghylch terfynau ei heffaith bosibl ar leihau allyriadau Cymru. 

Nid yw hyn yn ymwneud ag osgoi atebolrwydd, ond y gwrthwyneb. Mae’r Pwyllgor yn credu y dylai pobl Cymru fedru deall llwyddiannau a methiannau Llywodraeth Cymru yn llawnach. Hefyd, fe ddylen nhw fedru dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif am ei pherfformiad mewn meysydd heb eu datganoli. O ystyried bod Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar effeithiolrwydd polisïau Llywodraeth y DU er mwyn cyrraedd ei thargedau, mae angen iddi esbonio beth y bydd yn ei wneud os bydd polisi Llywodraeth y DU yn newid sy'n bygwth ei gallu i gyrraedd ei thargedau.

Hefyd, mynegodd adroddiad y Pwyllgor ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru siom ynghylch y diffyg pwyslais ar ddatgarboneiddio.

Dywedodd Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y canlynol:

“Fel Pwyllgor, rydym yn pryderu y gallai 'argyfwng newid hinsawdd' gael ei ystyried fel geiriau yn unig ac nad yw wedi arwain at weithredu ar frys. Nid ydym am i bethau barhau i fod yn fusnes fel arfer: mae’n argyfwng a dylid ei drin felly. 

“Rydym yn croesawu uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2050 ond mae angen i ni wybod llawer mwy am sut y mae modd cyflawni hyn, yn enwedig gan mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y polisi ar gyfer llawer o allyriadau Cymru. 

“Mae angen gweithredu ar frys ac mae ein Pwyllgor wedi cyflwyno cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Heddiw rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu manylion y camau y mae wedi'u cymryd ers datgan argyfwng hinsawdd.”