Busnes y Cynulliad Cenedlaethol yn mynd rhagddo wrth i’r holl Aelodau gwrdd yn y Cyfarfod Llawn
17 Mai 2011
Bydd Aelodau’r Cynulliad yn cwrdd ar Ddydd Mercher 18 Mai yn ail Gyfarfod Llawn y Pedwerydd Cynulliad.
Cynhelir y cyfarfod am 1.30pm yn y Siambr.
Mae agenda’r cyfarfod fel a ganlyn:
Eitem un: Teyrngedau i’r cyn-Lywydd, Y Gwir Anrh. yr Arglwydd Elis-Thomas AC
Eitem dau: Datganiad gan y Prif Weinidog am ei benodiadau i’r Cabinet
Eitem tri: Cynnig i benodi’r Pwyllgor Busnes
Eitem pedwar: Cynnig i gymeradwyo busnes y Cyfarfod Llawn ar gyfer 25 Mai
Mae’r Llywydd wedi penderfynu y cynhelir y trydydd Cyfarfod Llawn am 1.30 ddydd Mercher 25 Mai. Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar hyn yn y cyfarfod yfory, caiff y Cwestiynau cyntaf i’r Prif Weinidog eu gofyn yn y cyfarfod hwnnw. Caiff yr agenda ar gyfer y cyfarfod hwn ei gyhoeddi’n ddiweddarach yr wythnos hon.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth yn y Canllaw i fusnes cynnar y Cyfarfod Llawn ar ôl etholiad mis Mai 2011.
Gellir gwylio trafodion y Cyfarfod Llawn naill ai o’r oriel gyhoeddus yn y Senedd neu ar-lein ar www.senedd.tv.
Dylai unrhyw un sydd am wylio o’r oriel gyhoeddus gysylltu â llinell archebu’r Cynulliad Cenedlaethol ar 0845 010 5500 neu anfon e-bost i archebu@cymru.gov.uk.