Bwlch Cyflogaeth Anabledd Cymru yr uchaf ym Mhrydain

Cyhoeddwyd 06/03/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/03/2025

Mae gormod o bobl anabl yng Nghymru yn wynebu rhwystrau diangen i waith cyflogedig, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Mae’r bwlch cyflogaeth anabledd, hynny yw, y gwahaniaeth mewn cyfraddau cyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, yn gyson uwch yng Nghymru nag mewn mannau eraill yn y DU.

Clywodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd dystiolaeth gan bobl anabl, elusennau ac academyddion yn ystod ei ymchwiliad. Ysbrydolodd y dystiolaeth a gafwyd gan Gerraint Jones-Griffiths, y Llysgennad Anabledd Dysgu ar gyfer Engage to Change yr enw ar gyfer yr adroddiad heddiw, sef: Gellir Cyflawni Unrhyw Beth gyda'r Gefnogaeth Gywir.

Mae’r adroddiad yn gwneud saith argymhelliad i Lywodraeth Cymru i leihau’r bwlch cyflogaeth anabledd.

Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol:

“Mae dros 20 mlynedd ers i Lywodraeth Cymru fabwysiadu’r model cymdeithasol o anabledd, ac mae gormod o bobl ag amhariadau yn parhau i wynebu rhwystrau i fyd gwaith. Mae angen inni newid hynny.

“Mae ein hadroddiad, Gellir Cyflawni Unrhyw Beth yn dweud yn glir, y dylai'r rhai sydd eisiau, ac sy'n gallu gweithio, gael urddas o wneud hynny. Rydym yn cydnabod bod rhai amhariadau yn arwain at na all pawb weithio, ond mae angen i athrawon, cyflogwyr a’r llywodraeth weithredu i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol y bwlch cyflogaeth anabledd.

“Os gallwn fynd i’r afael â’r bwlch hwn, fe welwn ni ddoniau newydd yn y gweithlu, diwedd ar botensial heb ei wireddu, a rhagolygon gwell i Gymru gyfan.”

Dywedodd Gerraint Jones-Griffiths, Llysgennad Arweiniol Engage to Change, Anabledd Dysgu Cymru wrth y Pwyllgor:

“Y rhwystr mwyaf [i waith] yw’r addasiadau rhesymol y mae angen i gyflogwyr eu gwneud ar gyfer pobl.

“Nid yw cyflogwyr yn sylweddoli’r potensial y gall pobl ag anableddau dysgu ei gynnig i’w gweithlu. Nid yw'n ymddangos eu bod yn teimlo'r budd gwirioneddol.

“Rydw i wedi dweud erioed, gyda’r gefnogaeth gywir, y gellir cyflawni unrhyw beth.' Nid ar 'A’ am awtistiaeth y dylid canolbwyntio, ond yn hytrach ar C am ’Cyflawni', a phe gallai cyrff y sector cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, a phob cyflogwr weld hyn, byddai ein cymdeithas yn llawer gwell i bawb ei mwynhau.”

Rhwng 2015-16 a 2023-24, gostyngodd y bwlch cyflogaeth anabledd yng Nghymru o 35.4% i 30.9%. Fodd bynnag, mae’n gyson uwch yng Nghymru na rhannau eraill o’r DU. Yng Nghymru, ceir amrywiadau sylweddol rhwng ardaloedd awdurdodau lleol.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud saith argymhelliad manwl yn yr adroddiad, gan gynnwys gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Hawliau Pobl Anabl, ei gwneud yn ofynnol i lywodraeth leol gynyddu nifer y bobl anabl yn eu gweithlu, a mynd i’r afael â phryderon ynghylch trylwyredd y Cynllun Hyderus o ran Anabledd cyn mis Ebrill 2025.

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.