Byddai Brexit 'dim bargen' yn fygythiad difrifol i borthladdoedd Cymru, yn ôl y Pwyllgor Materion Allanol

Cyhoeddwyd 26/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/11/2018

​Byddai Brexit 'dim bargen' yn fygythiad difrifol i'r sector porthladdoedd yng Nghymru, yn ôl y Pwyllgor Materion Allanol.

Fel rhan o'i ymchwiliad i sut y mae porthladdoedd Cymru'n paratoi ar gyfer Brexit, clywodd y Pwyllgor fwy nag unwaith am y pryderon ynghylch sefyllfa fregus y prif borthladdoedd gyrru ar/oddi longau yng Nghymru pe byddai unrhyw achosion newydd o oedi ar ôl ymadael â'r UE.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Gyda llai na phum mis hyd nes i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, fe wnaethom ymgymryd â'r gwaith hwn gan ein bod am gael hyder bod y sector porthladdoedd yn barod ar gyfer unrhyw fath o Brexit.  Yr hyn a ganfuwyd yw bod angen newid sylweddol yng ngweithgarwch Llywodraeth Cymru i gefnogi'r sector i baratoi ar gyfer Brexit 'dim bargen'.

"Os bydd ein hofnau yn cael eu gwireddu ynglŷn ag oedi a gwiriadau newydd ym mhorthladdoedd Cymru, fel Caergybi ac Abergwaun, yna bydd angen i Gymru fod â chynlluniau manwl i reoli'r canlyniadau. Dyna pam rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi manylion unrhyw gynlluniau wrth gefn sydd ganddi i reoli traffig, gan gynnwys amlinellu pa wariant newydd y bydd ei angen ar seilwaith."

Yn 2016, teithiodd ychydig dros 650,000 o gerbydau teithwyr a 524,000 o lorïau a threlars heb deithwyr drwy borthladdoedd Cymru. Wrth roi tystiolaeth, dywedodd y Gymdeithas Cludo Nwyddau ar Lorïau nad yw'r paratoadau presennol yn ddigonol i osgoi tarfu'n drychinebus ar gadwyni cyflenwi.

Rhybuddiodd y Gymdeithas:

"There is not, and will not, be sufficient trained and competent customs clearance agents or sufficient resources within UK and EU border agencies. It will not be possible to put systems in place, and to train sufficient people to deal with border processes in the UK or the EU by 30 March 2019".
 
Rhybuddiwyd y Pwyllgor am y perygl y bydd tarfu ar gludo nwyddau, a'r risg mai ychydig  o drwyddedau fyddai ar gael i deithio rhwng gwledydd Ewrop mewn sefyllfa 'dim bargen'.

Dywedodd David Rees AC:

"O ran goblygiadau Brexit ar gyfer cludo nwyddau, clywsom, pe na lwyddir i daro bargen rhwng yr UE a'r DU, y byddai'n rhaid i gludwyr a chwmnïau nwyddau yng Nghymru ddibynnu ar nifer gyfyngedig iawn o drwyddedau i barhau i weithredu  Roedd hyn yn destun pryder mawr i ni ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod ganddynt yr hyn sydd ei angen arnynt i wneud cais am y trwyddedau hynny."

Roedd Richard Ballantyne o grŵp Porthladdoedd Cymru pwysleisio bod angen cyfnod pontio ar y sector. Dywedodd:

"We don't have the facilities. This is intra-EU movement, so it's been outside customs controls and port health controls for 25 years at least, which means we don't have the facilities and processes at the border already. So, anything that introduces those new checks is going to be quite a dramatic change and it's going to take time for both the port operators to build in new systems and the Government to build in their new arrangements."

Roedd sectorau eraill sy'n dibynnu'n anuniongyrchol ar borthladdoedd, fel awyrennau a thwristiaeth, hefyd wedi rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor. Meddai David Rees:

"Mae proses Brexit hefyd yn debyol o effeithio ar sectorau megis diwydiant twristiaeth Cymru. Rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar frys ar wella ei dulliau cyfathrebu â phob sector sy'n dibynnu ar borthladdoedd yng Nghymru."

Gwnaeth y Pwyllgor saith argymhelliad yn ei adroddiad, i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru:

  • bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion ei chynllun wrth gefn ar gyfer rheoli traffig a thagfeydd a all effeithio ar borthladdoedd gyrru ar/oddi ar longau yng Nghymru os bydd angen unrhyw wiriadau newydd neu os bydd achosion newydd o oedi ar ôl 29 Mawrth 2019, ynghyd â manylion unrhyw asesiad y mae wedi'i wneud o ran y trefniadau cyllido ar gyfer unrhyw isadeiledd y bydd ei angen.
  • bod Llywodraeth Cymru yn trafod â chwmnïau o Gymru sy'n masnachu'n rhyngwladol (yn enwedig masnach â gweddill y byd) pa gymorth y gallent fod ei angen wrth newid trefniant tollau yn y dyfodol.
  • bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei safbwyntiau ynghylch y cynigion ar gyfer yr ateb wrth gefn mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, a sut y bydd yr ateb wrth gefn hwnnw yn effeithio ar weithrediadau ym mhorthladdoedd Cymru. 
  • bod Llywodraeth Cymru yn gwella ei dull cyfathrebu cyffredinol â phorthladdoedd, a rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â phorthladdoedd, megis sefydliadau cludo nwyddau, cwmnïau teithio, a'r sector twristiaeth i roi rhagor o sicrwydd iddynt ynghylch y paratoadau a'r gwaith cynllunio ar gyfer 29 Mawrth 2019. 
  • bod Llywodraeth Cymru yn rhoi diweddariad inni ar y trafodaethau y mae'n eu cynnal ag adrannau cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynghylch systemau TG newydd mewn perthynas â threfniadau tollau yn y dyfodol.
  • bod Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'i rhanddeiliaid economaidd allweddol i sicrhau bod ganddynt y capasiti a'r adnoddau sydd eu hangen i ymgymryd â phroses Llywodraeth y DU ar gyfer ymgeisio am drwydded.
  • bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu yn ei hymateb a yw'n bwriadu cyflwyno rheoliadau amgylcheddol newydd ar ôl Brexit, a sut y byddai'r rhain yn gweithio ochr yn ochr â chynigion Llywodraeth y DU i greu 'llyfr rheolau cyffredin' ar ôl Brexit.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Paratoi ar gyfer Brexit: Adroddiad dilynol ar barodrwydd porthladdoedd Cymru (PDF, 354 KB)