Cadeiryddion pwyllograu i gael eu hethol drwy bleidlais gudd

Cyhoeddwyd 15/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/06/2016

​Heddiw, cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd Cadeiryddion pwyllgorau'r Pumed Cynulliad yn cael eu hethol drwy bleidlais gudd o’r holl Aelodau. Mae'r cam hwn yn rhoi mandad i'r Cadeiryddion ac aelodau'r pwyllgorau ddatblygu eu rhaglenni gwaith yn annibynnol gan gryfhau eu gallu i gynrychioli pobl Cymru a'u buddiannau ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. 

Mae hwn yn newid sylweddol o'i gymharu â'r Cynulliad blaenorol, ac meddai'r Llywydd, Elin Jones AC:

"Mae penderfyniad y Pwyllgor Busnes i ganiatáu pleidlais gudd i ethol Cadeiryddion yn cyd-fynd â'm haddewid fel Llywydd i ddiogelu buddiannau holl Aelodau'r Cynulliad a'u trin i gyd yn gyfartal.

Mae'r penderfyniad yn dangos ymrwymiad y Pwyllgor Busnes i gynnal yr egwyddor honno, ond hefyd ei fwriad i fynd ar drywydd diwygiadau gweithdrefnol lle bo angen er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn cael y ddemocratiaeth y maent yn galw amdani ac yn ei haeddu".

Bydd yn ofynnol newid rheolau sefydlog y Cynulliad yn sgil penderfyniad y Pwyllgor Busnes er mwyn hwyluso'r broses o ethol cadeiryddion. Bydd cynigion manwl yn cael eu cyhoeddi ar ôl i'r Pwyllgor Busnes gytuno arnynt.