Cafwyd rhywfaint o gynnydd, ond mae rhagor i’w wneud i gryfhau Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 20/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae Pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru wedi croesawu'r cynnydd a wnaed ym mherfformiad Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ond mae'n rhybuddio am 'amrywiaeth sylweddol yn rhanbarthol'.

Yn ei waith dilynol ynghylch ei ymchwiliad blaenorol i'r gwasanaeth, croesawodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr hyn y mae'n ei alw'n 'gynnydd mawr' mewn nifer o feysydd, gan gynnwys yr uwch arweinyddiaeth, defnyddio ambiwlansys yn fwy effeithiol, a chyflwyno model ymateb clinigol newydd.

Mae'r model newydd, sy'n cael ei dreialu am flwyddyn ar hyn o bryd, yn categoreiddio galwadau 999 yn rhai coch, oren a gwyrdd:

  • Coch: bygythiad uniongyrchol i fywyd. Y targed yw y bydd 65 y cant o ymatebion brys yn cyrraedd o fewn 8 munud.
  • Oren: difrifol, ond nid oes bygythiad uniongyrchol i fywyd.
  • Gwyrdd: difrys (yn aml yn cael eu rheoli gan wasanaethau iechyd eraill) gydag asesiad clinigol dros y ffôn.

Yn ystod mis Hydref y llynedd, ymatebwyd i 68.7 y cant o'r galwadau categori coch o fewn wyth munud ledled Cymru. Fodd bynnag, wrth ddadansoddi'r ffigur fesul bwrdd iechyd lleol, canfu'r Pwyllgor amrywiaeth sylweddol yn rhanbarthol, gyda 73.4 y cant o'r galwadau yn cael eu hateb o fewn wyth munud yn Betsi Cadwaladr, a 57.6 y cant yn unig yn Hywel Dda.

Yn ôl y Pwyllgor, dylai mynd i'r afael â'r mater hwn fod yn flaenoriaeth. Mae'r Pwyllgor hefyd yn pryderu am y ffordd y cyhoeddir data, gan fod Llywodraeth Cymru yn rhyddhau ystadegau yn chwarterol. Mae'n galw am i gyfres gynhwysfawr o ddata, wedi'i rhannu fesul ardal awdurdod lleol, gael ei rhyddhau yn fisol, a hynny er mwyn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd.

Codwyd pryderon pellach ynghylch materion staffio parhaus, amseroedd trosglwyddo cleifion mewn ysbytai, a sicrhau bod y cynnydd a wnaed hyd yn hyn yn cael ei ymgorffori'n ddigonol a'i fod yn gynaliadwy.

"Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r cynnydd mawr a wnaed mewn nifer o feysydd ers mis Mawrth 2015, gan gynnwys yr uwch arweinyddiaeth, defnyddio ambiwlansys yn fwy effeithiol, a chyflwyno model ymateb clinigol newydd," meddai David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

"Mae'r cynnydd hwn i'w ganmol. Serch hynny, hoffai'r Pwyllgor Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru yn rhoi sicrwydd y bydd y cynnydd a wnaed hyd yn hyn yn cael ei ymgorffori'n ddigonol er mwyn sicrhau newid a gwella parhaus. .

"Yn ogystal, mae'r Pwyllgor o'r farn bod angen cynnydd pellach, ym enwedig o ran cyhoeddi data perfformiad, datrys materion staffio sydd heb eu datrys, ac adeiladu ar y waith sy'n cael ei wneud i amrywio llwybrau cleifion."

Yn y sesiynau tystiolaeth lafar ar 3 Rhagfyr 2015, clywodd y Pwyllgor gan: y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys; Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru; byrddau iechyd lleol; ac undebau llafur.

Mae'r Pwyllgor wedi ysgrifennu at Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd, gyda'i ganfyddiadau a'i gasgliadau. Darllenwch y llythr isod:

Llythyr dilynol at y Dirprwy Gweinidog IechyD (PDF, 416KB)

Dysgwch ragor am y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Dysgwch ragor am yr ymchwiliad blaenorol i Wasanaethau Ambiwlans Cymru, gan gynnwys llythyr y Pwyllgor at y Dirprwy Weinidog ac ymateb y Dirprwy Weinidog.

Llun: Gwasanaethau Ambiwlans Cymru