Cân Dydd Gwyl Dewi i gael ei lansio yn y Cynulliad

Cyhoeddwyd 29/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cân Dydd Gwyl Dewi i gael ei lansio yn y Cynulliad         

Caiff cân newydd i ddathlu Dydd Gwyl Dewi ei lansio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 31 Ionawr.

“Cenwch y Clychau i Dewi - Ring Out the Bells for St David” yw canolbwynt canolog Prosiect Dydd Gwyl Dewi y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru (GCaD). Caiff ei pherfformio yn Gymraeg ac yn Saesneg gan ddisgyblion Ysgol Pen-y-Garth, Penarth yn adeilad y Pierhead am 10.30am. Bydd y plant yn croesi Bae Caerdydd ar gwch o Benarth i gyflwyno’r gân i’r Cynulliad Cenedlaethol. Ysgrifennwyd y gân gan Gwenno Dafydd a Heulwen Thomas, ac mae’r plant hefyd wedi recordio’r gân.

Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Llywydd, yn gwrando ar y perfformiad cyn cyflwyno Cwpan Dewi Sant GCaD Cymru i’r ysgol. Yn y dyfodol, bydd yr ysgol yn cyflwyno’r cwpan hwnnw, gyda’r geiriau “Gwnewch y pethau bychain” wedi’u harysgrifennu arno i’r plentyn sydd wedi ymdrechu fwyaf i helpu cyd-ddisgyblion ac athrawon yn ystod y flwyddyn.

Wedi’r perfformiad, y plant fydd y bobl gyntaf i bleidleisio dros eu “Cymry Campus”, sef ymgyrch y Cynulliad Cenedlaethol i ganfod hoff Gymro/Cymraes y genedl. Yn ystod mis Chwefror, caiff ymwelwyr â’r Senedd gyfle i enwebu eu hoff Gymro neu Gymraes. Gall pobl o rannau eraill o Gymru anfon eu hawgrymiadau i’r Cynulliad ar gerdyn post. Yna, cyhoeddir rhestr fer erbyn dechrau pleidleisio ar Ddydd Gwyl Dewi.

Ysgrifennwyd y gân yn wreiddiol ar gyfer Gorymdaith Genedlaethol Dydd Gwyl Dewi ar 1 Mawrth ac mae bellach wedi cael ei mabwysiadu fel y gân swyddogol ar gyfer yr Orymdaith honno. Caiff yr Orymdaith ei threfnu gan wirfoddolwyr, gyda chefnogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chyngor Caerdydd, a bydd yn cychwyn o’r Amgueddfa Genedlaethol am 1.15pm ac yn gorffen yn y Senedd am 2.15pm, ble y caiff y gorymdeithwyr eu croesawu gan y Llywydd. Bydd perfformiadau gan Gôr CF1, Cwmni Dawns Caerdydd a gweithgareddau am ddim megis peintio wyneb, lliwio a sesiynau blas ar y Gymraeg yn digwydd yn y Senedd drwy gydol y prynhawn.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rwyf yn edrych ymlaen at glywed perfformiad Ysgol Pen-y-Garth o’r gân yn y Cynulliad a’i chlywed yn yr Orymdaith ar ddydd Gwyl Dewi. Mae’r Orymdaith wedi bod yn mynd o nerth i nerth ers y blynyddoedd cyntaf ac rwyf yn falch y bydd yn gorffen yn y Senedd eleni. Gobeithio y gallaf groesawu pobl o bob rhan o Gymru i’w hadeilad i ddathlu dydd ein nawddsant.”

Dywedodd Dafydd Watcyn Williams, Cyfarwyddwr Prosiect GCaD Cymru: “Mae’r gân a’r Orymdaith wedi bod yn rhan ganolog o brosiect addysgol ar Ddewi Sant. Mae GCaD Cymru wedi paratoi deunydd addysgol am fywyd Dewi Sant, a pham rydym yn dathlu Dydd Gwyl Dewi. Gobeithio y caiff y gân ei pherfformio mewn sawl cyngerdd Gwyl Dewi ar hyd a lled y wlad.”

Dywedodd Gwenno Dafydd, awdur y geiriau: “Mae Heulwen a minnau’n falch iawn y bydd plant o bob cwr o’r wlad yn dysgu’r gân ac y bydd yn cael ei pherfformio yn y Cynulliad. Cefais fy ysbrydoli i ysgrifennu’r gân wrth gymryd rhan yn yr Orymdaith yn 2005 felly rwyf yn falch iawn ei bod bellach yn gân swyddogol Gorymdaith Genedlaethol Dydd Gwyl Dewi.”

Nodiadau i olygyddion

  • Wedi’r lansiad, bydd y gân ar gael ar dudalen flaen gwefan GCaD Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg ynghyd â dau fersiwn o gyfeiliant y gân y gall ysgolion eu llwytho i lawr. Ewch i http://www.ngfl-cymru.org.uk/ am ragor o wybodaeth.  

  • Gellir clywed y gân yn Gymraeg ac yn Saesneg hefyd ar wefan swyddogol Gorymdaith Genedlaethol Dydd Gwyl Dewi, yn ogystal â chael copïau o’r geiriau a gwybodaeth ychwanegol am yr Orymdaith.  http://www.stdavidsday.org