Canlyniadau arholiadau - Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cyhoeddwyd 18/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth, 18 Awst, cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd gyfarfod rhithwir gyda CBAC, Cymwysterau Cymru a Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg, i drafod y materion sy’n ymwneud â chanlyniadau arholiadau eleni yng Nghymru. 

Yn dilyn y cyfarfod, rhyddhaodd Lynne Neagle AS, Cadeirydd y Pwyllgor, y datganiad hwn:

“Rwy’n ddiolchgar i CBAC, Cymwysterau Cymru a’r Gweinidog Addysg am gytuno i gwrdd â ni ar gymaint o fyr rybudd i drafod yr hyn sydd wedi bod yn straen ac yn destun pryder mawr i filoedd o bobl ifanc ledled Cymru.

“Diolch i’r Gweinidog am ei hymddiheuriad i bawb yr effeithiwyd arnynt gan y system o safoni graddau eleni. Rydym wedi dysgu bod diffygion ar y system a ddyfeisiwyd i osod y graddau hynny ac mae effaith y diffygion hynny yn glir.

“Yr hyn sy’n bwysig nawr yw sicrhau bod y bobl ifanc hynny yr effeithiwyd arnynt waethaf gan y system hon yn cael eu cefnogi a’u bod yn gallu symud ymlaen gyda’r camau nesaf yn y llwybrau gyrfa neu ddysgu y maent wedi’u dewis.

“Yn y tymor hwy, mae angen i ni wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto. Ni all unrhyw un ragweld a fydd cyfnod arall fel hwn o gyfyngiadau symud yn y dyfodol neu pryd y gallai hyn ddigwydd, felly mae'n rhaid i ni ddysgu o'r profiadau hyn ac osgoi'r penderfyniadau dryslyd, digalon a welsom dros yr wythnosau diwethaf.

“Mae ymrwymiad y Gweinidog i gael adolygiad annibynnol o’r mater hwn wedi tawelu ein meddyliau. Byddwn yn cymryd rhan weithredol wrth fonitro ei gynnydd a'i ganfyddiadau, a byddwn yn cadw llygad barcud er mwyn sicrhau bod gwersi o'r cyfnod hwn yn cael eu dysgu ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau â'n gwaith i gynrychioli a chefnogi plant a phobl ifanc yng Nghymru trwy'r hyn a fu'n un o gyfnodau mwyaf heriol eu bywydau."

Mae'r cyfarfod ar gael i'w wylio ar alw yn www.senedd.tv