Canlyniadau canser y coluddyn yng Nghymru ymysg y gwaethaf yn Ewrop

Cyhoeddwyd 08/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/04/2019

Mae'r nifer o bobl sy'n cymryd rhan yn y rhaglen sgrinio coluddion yng Nghymru yn frawychus o fach, ac mae'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd yng Nghymru yn methu amseroedd aros ar gyfer profion a all wneud diagnosis o ganser y coluddyn.

Dyma dystiolaeth a gasglwyd yn rhan o ymchwiliad un diwrnod i wasanaethau endosgopi yng Nghymru, a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad fod canlyniadau canser y coluddyn yng Nghymru ymysg y gwaethaf yn Ewrop.

Sgrinio yw'r ffordd orau o wneud diagnosis o ganser y coluddyn yn gynnar ond, rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2018, dim ond 55.7 y cant o bobl gymwys i gymryd y prawf sgrinio coluddion yng Nghymru a wnaeth gwblhau'r broses.

Mae mwy o fenywod (57.2 y cant) yn cymryd rhan na dynion (54.1 y cant). Hefyd, mae gwahaniaeth sylweddol yn y nifer o bobl o ardaloedd difreintiedig sy'n mynychu apwyntiadau sgrinio, 45.6 y cant, o'i chymharu â 63.3 y cant yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

O 2019, bydd y prawf sgrinio presennol yng Nghymru yn newid i un symlach a chywirach, sef y Prawf Imiwnocemegol Ysgarthol (FIT). Mae disgwyl i'r nifer o bobl sy'n cael eu sgrinio gynyddu o ganlyniad i'r prawf newydd, ond mae pryderon bod unedau endosgopi yn ysbytai Cymru eisoes yn cael trafferth ymdopi â'r galw felly, er bod y prawf sgrinio newydd yn welliant cadarnhaol, gallai roi mwy o straen ar wasanaeth sydd eisoes dan bwysau.

Er bod y Pwyllgor yn croesawu'r ffaith bod FIT yn cael ei gyflwyno, mae'n siomedig bod y trothwy sensitifrwydd arfaethedig yn Rhaglen Sgrinio Canser y Coluddyn yng Nghymru yn is na throthwy'r rhai cyfatebol yn y DU.

Y trothwy sensitifrwydd Prawf Imiwnogemegol Ysgarthion a gynlluniwyd fel rhan o raglen sgrinio canser y coluddyn yng Nghymru yw 150 microgram o haemoglobin am bob gram o ysgarthion (μg Hb/g), sy'n is na'r Alban, lle mae'n 80μg Hb/g. Yn Lloegr, disgwylir i'r newid ddigwydd yn ystod tymor y gwanwyn / haf 2019, gyda throthwy sensitifrwydd cychwynnol arfaethedig o 120μg Hb/g .

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r ymchwiliad hwn, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y penderfyniad i gyflwyno lefel sensitifrwydd Prawf Imiwnogemegol Ysgarthion o 150 μg Hb/g yn seiliedig ar y goblygiadau cysylltiedig o ran adnoddau i GIG Cymru, sy'n fan cychwyn ymarferol yn seiliedig ar gapasiti presennol y GIG.

Clywodd y Pwyllgor hefyd, er gwaethaf cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, fod amseroedd aros yn dal i achosi pryder. Mae angen buddsoddi er mwyn cael amseroedd aros dan reolaeth, ond mae hefyd angen dull gweithredu mwy cynaliadwy gan fod contractau allanol a mewnol yn ddrud ac nid yw'n cynnig ateb yn y tymor hir.

"Mae gwasanaethau endosgopi yng Nghymru yn gwegian, ac mae'n siomedig mai ychydig o gynnydd sydd wedi'i wneud i'w gwella ers adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Endosgopi Llywodraeth Cymru yn 2014," meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

"Mae cyflwyno FIT yn gam cadarnhaol gan ein bod o'r farn bod sgrinio coluddion yn lleihau'n sylweddol y risg y bydd rhywun yn marw o ganser y coluddyn.

"Er ein bod yn derbyn bod yn rhaid rheoli'r galw'n briodol, rydym yn siomedig bod y trothwyon ar gyfer FIT yn is yng Nghymru, ac rydym yn pryderu y bydd Cymru, heb gynllun clir i wneud y gorau o'r rhaglen, yn cwympo ymhellach y tu ôl i rannau eraill o'r DU.

"Yr hyn sydd ei angen nawr yw i Lywodraeth Cymru ddangos cynnydd sylweddol ac arweinyddiaeth gref er mwyn mynd i'r afael â'r problemau y mae'r maes pwysig hwn o wasanaeth iechyd Cymru yn eu hwynebu."

Un argymhelliad y mae'r Pwyllgor yn ei wneud yn ei adroddiad, sef:

Erbyn mis Hydref 2019, dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r rhaglen gwella endosgopi genedlaethol i greu a chyhoeddi cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol sy'n mynd i'r afael â'r galw nawr ac yn y dyfodol am wasanaethau sydd ag amserlenni a thargedau clir ar gyfer gwella.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Gwasanaethau endosgopi yng Nghymru (PDF, 435 KB)