Canolbwyntio ar bolisi a chraffu - y Bwrdd Taliadau annibynnol yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol

Cyhoeddwyd 18/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Canolbwyntio ar bolisi a chraffu - y Bwrdd Taliadau annibynnol yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol

18 Gorffennaf 2013

Mae Bwrdd Taliadau annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi clustnodi rhagor o ddatblygu polisi a chapasiti i graffu fel y brif flaenoriaeth yn ei adroddiad blynyddol a gyhoeddir heddiw (18 Gorffennaf).

Y Bwrdd sy'n gyfrifol am bennu'r system o daliadau a chymorth ariannol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, a thros gyfnod y Pedwerydd Cynulliad, amcangyfrifir y bydd y penderfyniadau a wnaeth yn arbed £2 filiwn i bwrs y wlad.

Mae ei waith yn ystod 2012/13 wedi canolbwyntio ar ymateb i bwerau ychwanegol y Cynulliad, a chymhlethdod gwaith yr Aelodau o ganlyniad i'r bleidlais o blaid y pwerau hynny yn refferendwm 2011.

Dywedodd Syr George Reid, Cadeirydd y Bwrdd, "Mae'r Cynulliad wedi esblygu'n sylweddol ers iddo gael ei sefydlu.

"Dechreuodd fel corff corfforaethol ac mae bellach yn ddeddfwrfa lawn. Mae hynny'n esgor ar lawer mwy o gyfrifoldebau, yn enwedig ym meysydd craffu ar bolisi cyhoeddus, deddfwriaeth a chyllid.

"Mae'r Bwrdd yn cydnabod yn llwyr bwysigrwydd y gwaith y mae Aelodau a'u staff yn ei wneud yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau. Dyma lle mae pobl Cymru yn ymgysylltu â'u cynrychiolwyr etholedig.

"Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth sydd gennym yn nodi y byddai'n ddymunol targedu mwy o adnoddau at Fusnes Ffurfiol y Cynulliad er mwyn cyflawni cyfrifoldebau newydd a chynyddol.

Nid yw hyn yn beth hawdd yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mewn deddfwrfa â dim ond 60 o Aelodau.

"Yn yr adroddiad hwn, amlinellwn fesurau i wella gallu ac adnoddau yn y maes polisi. Byddem wedi hoffi mynd ymhellach, ond cydnabyddwn fod angen ymgynghori ymhellach ar rai materion cyn gwneud penderfyniad yn 2014."

Mae'r Bwrdd wedi cyflwyno'r mentrau canlynol er mwyn mynd i'r afael â rhagor o bolisi capasiti o fewn y Cynulliad:

  • Sefydlu Cronfa Polisi ac Ymchwil sy'n darparu £2,000 i bob un o'r 60 o Aelodau'r Cynulliad i gomisiynu gwaith ymchwil allanol;

  • Rhoi mwy o gymorth i grwpiau er mwyn eu galluogi i ymdrin â gwaith cymhleth y Cynulliad fel deddfwrfa.

Mae'r Bwrdd hefyd wedi codi cyflogau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad 1% ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-14.

Cyfanswm costau'r mentrau hyn yw £261,741 ond mae'r Bwrdd o'r farn y gwneir iawn am hyn gan yr arbedion o £2 filiwn a gaiff eu hamcangyfrif yn ystod y Pedwerydd Cynulliad oherwydd penderfyniadau eraill y mae wedi'u gwneud ynghylch tâl a threuliau Aelodau.

Ychwanegodd Syr George Reid, "Mae'r Bwrdd o'r farn bod gwella polisi a'r gallu i graffu yn hanfodol ar gyfer datblygiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Mae gan y Cynulliad bwerau ychwanegol a chredwn fod y pecyn a gaiff ei awgrymu, o gofio'r cyfyngiadau sydd ar y pwrs cyhoeddus ar hyn o bryd, yn cynnig gwerth am arian a sicrhau bod y sefydliad yn addas i'r diben ar yr un pryd."

Yn ei adroddiad, mae'r Bwrdd yn nodi beth fydd yn canolbwyntio arno yn y blynyddoedd i ddod:

  • parhau i adolygu pensiynau Aelodau'r Cynulliad;

  • gwneud penderfyniad ynghylch lefelau cyflogau Aelodau'r Cynulliad a deiliad swyddi fel Gweinidogion cyn etholiad y Cynulliad yn 2016; a

  • sicrhau bod y pecyn cyfan o gymorth sydd yn ei le ar gyfer y Cynulliad nesaf yn galluogi Aelodau i gyflawni eu dyletswyddau ym mhob agwedd ar eu gwaith.

Mae'd adroddiad ar gael yma.