Chi piau’r swydd - y Cynulliad Cenedlaethol yn chwarae’i ran i fynd i’r afael â’r broblem o ddiweithdra ymysg pobl ifanc

Cyhoeddwyd 12/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Chi piau’r swydd - y Cynulliad Cenedlaethol yn chwarae’i ran i fynd i’r afael â’r broblem o ddiweithdra ymysg pobl ifanc

12 Mawrth 2014

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno ei gynllun prentisiaeth yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot.

Mae’r pedwar prentis o’r cohort cyntaf wedi cael swyddi llawn-amser yn y Cynulliad ar ôl cwblhau’u prentisiaeth.

Eleni, mae’r Cynulliad wedi derbyn chwe phrentis gan gynnwys un yn Swyddfa’r Cynulliad ym Mae Colwyn am y tro cyntaf.

Dechreuodd y chwech ar eu gwaith ar 3 Chwefror ac maent i gyd wedi cael gwahoddiad, ynghyd â’u teuluoedd a chyfeillion, i ymuno â’r Llywydd yn y Senedd i’w croesawu’n swyddogol ar 13 Mawrth.

"Gyda diweithdra ymysg pobl ifanc mor uchel yn yr hinsawdd economaidd bresennol, dylem oll wneud popeth a allwn i geisio cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau drwy gyfleoedd gwaith." meddai’r Fonesig Rosemary.

"Mae cynllun prentisiaeth y Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn llwyddiant mawr yn ystod ei flwyddyn gyntaf a phrofodd y cohort cyntaf o brentisiaid i fod yn ychwanegiad ardderchog i’n timau ledled y sefydliad.

"Rwy’n falch o groesawu ein recriwtiaid newydd, ynghyd â’u teuluoedd, i’r Senedd ar ddechrau’r hyn fydd gobeithio yn yrfa hir a llewyrchus i bob un ohonynt."

Y pedwar prentis yw:

Rhea James, 19, o Abertawe

Lleoliad y brentisiaeth – Uned Gydgysylltu (Cyfarwyddiaeth Busnes y Cynulliad)

“Rhea James ydw i, rwy’n 19 oed ac rwy’n byw yn Abertawe. Cefais fy lleoli yn Uned Gydgysylltu Cyfarwyddiaeth Busnes y Cynulliad.  Yn ystod fy amser sbâr, rwy’n mwynhau canu, darllen a mynd i’r sinema.  Rwyf hefyd yn mwynhau gweithgareddau awyr agored fel caiacio, dringo ac abseilio.  Dechreuais ymladd â chlefydau canoloesol yn ddiweddar ac rwy’n hyfforddi i gadw gwenyn. Rwyf hefyd yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd codi arian i elusennau."

Joshua Phillips, 18, o Sgiwen

Lleoliad y brentisiaeth – Gwasanaethau Ariannol (Adnoddau)

Fy enw i yw Josh Phillips (18, Sgiwen – Castell-nedd) ac rwy’n gweithio gyda thîm Adnoddau’r Cynulliad.  Bûm yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot am flwyddyn yn astudio seicoleg, daearyddiaeth, cemeg ac addysg gorfforol.  Ar ôl cwblhau blwyddyn yn y coleg, penderfynais nad oedd yn addas i mi ac roeddwn am gael profiad o’r byd gwaith.  Roeddwn yn ddigon ffodus i gael ychydig o swyddi rhan amser nes i mi gael lle ar Gynllun Prentisiaeth y Cynulliad.  Y tu allan i’r gwaith, rwy’n un o gefnogwyr brwd Manchester United ac rwy’n mwynhau chwarae a gwylio pêl-droed."

Natera Morris, 17, Y Sblot, Caerdydd

Lleoliad y brentisiaeth – TGCh

“Fy enw i yw Natera Morris ac rwy’n 17 oed.  Rwy’n byw yn Sblot, Caerdydd, ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda thîm Darlledu TGCh ar tîm Cymorth TGCh.  Cefais fy lleoli yn yr adran TGCh oherwydd yn ystod fy amser hamdden, byddaf yn gweithio’n wirfoddol yn fy ngorsaf radio leol, sef Radio Caerdydd.  Mae fy nyletswyddau’n cynnwys: cyflwyno ar yr awyr; defnyddio’r ddesg radio i reoli lefelau’r gerddoriaeth, lefelau lleisiau a’r hyn a gaiff, ac na chaiff, ei ddarlledu. Rwy’n gwneud hyn ers ychydig dros ddwy flynedd.  Mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o fy mywyd i, ac rwy’n tueddu i dreulio fy amser sbâr yn canu neu’n cyfansoddi caneuon, ac rwy’n gwneud hynny ers pedair blynedd.  Rwyf hefyd yn hoffi dawnsio, ac rwy’n gwneud hynny ers 13 o flynyddoedd.  Rwy’n mwynhau gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol yn arw.  Mae’n lle gwych i weithio, mae pawb yn garedig ac yn groesawgar iawn a does yr un diwrnod yn ddiflas.  Fy nod yw cael swydd sefydlog ar ôl cwblhau’r cynllun prentisiaeth a dal ati i weithio yma gobeithio gan ei fod yn lle mor braf i weithio ynddo ac mae’n gyfle mor dda".

Daniel Shipp, 19, Pontypridd

Lleoliad y brentisiaeth: Yr Adran Rheoli Ystadau a Chyfleusterau

“Fy enw i yw Daniel Shipp (19) ac rwy’n dod o ardal Pontypridd.  Rwy’n mwynhau pêl-droed, tennis, sboncen ac ati ac rwyf wrth fy modd yn cadw’n heini yn y gampfa neu’r pwll nofio.  Mae gennyf ddiddordeb mewn chwaraeon o bob math gan gynnwys rasys i godi arian i elusennau. Ymunais â Chynllun Prentisiaeth y Cynulliad i gael cyfle i ennill cymhwyster.  Mae’r cymhwyster yn apelio ata’ i gan fod gennyf ddiddordeb mawr yn y ffordd y mae’r Cynulliad, ac Aelodau’r Cynulliad, yn gweithio. I mi, mae’r Cynulliad fel yr Uwch Gynghrair sy’n cynnwys 4 clwb.  Rwy’n edrych ymlaen at y tymor nesaf."

Lori Nicholas, 18, Bargoed

Lleoliad y brentisiaeth: Cyfathrebu

“Sut mae? Lori Nicholas ydw i ac rwy’n byw ym Margoed. Rwy’n 18 oed ac rwyf newydd ddechrau prentisiaeth yn yr Adran Gyfathrebu.  Es i Goleg Ystrad Mynach i astudio Gwasanaethau Cyhoeddus am flwyddyn.  Ar ôl gadael y coleg bûm yn gweithio’n wirfoddol mewn cartref gofal i bobl ifanc a chanddynt anawsterau dysgu cyn cael y brentisiaeth gyda’r Cynulliad.  Yn ystod y cyfnod byr ers i mi ymuno â’r cynllun prentisiaeth rwyf wedi mwynhau pob munud ac rwyf wrth fy modd yn cyfarfod â phobl newydd a dysgu am gymaint o bethau newydd."

Stephanie Wetton, 17, Pandy Tudur

Lleoliad y brentisiaeth: Cyswllt Cyntaf (Bae Colwyn)

“Sut hwyl? Fy enw i yw Stephanie Wetton (17) ac rwyf wedi ymuno â’r tîm Cyswllt Cyntaf ym Mae Colwyn.  Rwy’n byw mewn pentref bach yng ngogledd Cymru o’r enw Pandy Tudur felly mae hyn yn newid mawr a chyffrous yn fy mywyd i.  Yn fy amser sbâr, rwy’n rhedeg ac yn nofio’n gystadleuol ond fy mhrif ddiddordeb yw siopa (yn enwedig am fagiau llaw).  Rwy’n gobeithio magu hyder a phrofiad o fywyd drwy fy mhrentisiaeth â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.  Rwy’n siwr y byddaf yn mwynhau fy amser yma ac rwy’n edrych ymlaen at yr her sy’n fy wynebu."