Chi piau’r swydd! Ymchwiliad y Cynulliad i fynd i’r afael â phrentisiaethau yng Nghymru

Cyhoeddwyd 05/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Chi piau’r swydd! Ymchwiliad y Cynulliad i fynd i’r afael â phrentisiaethau yng Nghymru

5 Mawrth 2012

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi agor ymgynghoriad ar ei hymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru.

Ymhlith y cwestiynau y bydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn eu gofyn yw: a yw’r system brentisiaethau’n rhoi cymorth effeithiol i economi Cymru, a yw’n diwallu anghenion sgiliau cyflogwyr yng Nghymru ar hyn o bryd, ac a fydd y system yn diwallu’r anghenion hynny yn y dyfodol?

Yn 2006/07, cymerodd dros 53,000 o bobl ran mewn rhaglenni dysgu seiliedig ar waith a oedd yn gysylltiedig â chynlluniau prentisiaeth. Yn 2009/10, gwelwyd gostyngiad yn y nifer hwnnw i ychydig dros 40,000.

Bydd yr ymchwiliad hwn yn ystyried y rhesymau dros y gostyngiad cyson a welir yn nifer y bobl sy’n dechrau prentisiaethau ac yn gofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru’n cyflawni ei hymrwymiad i gynyddu’r cyfleoedd a gynigir yn hynny o beth, yn unol â’r datganiad a wneir yn ei Rhaglen Lywodraethu 2011-2016.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: “Mae ffigurau Llywodraeth Cymru ynghylch nifer y bobl sy’n dewis dechrau prentisiaeth yn fater o bryder, yn enwedig o gofio’r hinsawdd economaidd bresennol.

“Byddwn yn ystyried y ffactorau sy’n cyfrannu at y gostyngiad hwn fel rhan o’n hymchwiliad, yn ogystal â’r fframwaith sydd ar gael i wella’r sefyllfa hon.

“Byddwn hefyd yn siarad â phobl ifanc er mwyn ceisio deall eu rhesymau dros benderfynu dechrau prentisiaeth ai peidio, a’r hyn y gellir ei wneud i sicrhau bod prentisiaethau’n fwy atyniadol.

“Byddwn yn siarad â chyflogwyr er mwyn cadarnhau a yw’r prentisiaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yn paratoi cwmnïau a sefydliadau yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.”

Gall unrhyw un sydd am gyfrannu at yr ymchwiliad anfon neges e-bost at: pwyllgor.menter@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Menter a Busnes, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA. Dylai cyflwyniadau ddod i law erbyn 6 Ebrill 2012.