Clinigwyr yn ystyried proses cynllunio swyddi ymgynghorwyr y GIG fel ‘ymarfer ticio blychau’ yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 09/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Clinigwyr yn ystyried proses cynllunio swyddi ymgynghorwyr y GIG fel ‘ymarfer ticio blychau’ yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Nid yw’r broses cynllunio swyddi ar gyfer ymgynghorwyr y GIG yng Nghymru yn cael ei hystyried fel llawer mwy nag ymarfer ‘ticio blychau’ gan rai clinigwyr a sefydliadau’r GIG, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Canfu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, er bod y broses o recriwtio a chadw ymgynghorwyr wedi gwella ers cyflwyno’r contract yn 2003, nad yw llawer o’i fanteision bwriadedig allweddol eraill wedi’u cyflawni.

Cafodd y Pwyllgor wybod bod cyfran sylweddol o ymgynghorwyr yn gweithio mwy o oriau bob wythnos na’r nifer a bennir yn y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewropeaidd.

Nid yw nifer fawr ychwaith yn cael adolygu eu cynllun swydd yn flynyddol. Ym marn y Pwyllgor, mae hyn yn cyfyngu ar allu’r byrddau iechyd lleol i drefnu a chynllunio eu hadnoddau’n effeithiol, gan wanhau eu gallu i gynllunio ar gyfer y galwadau sydd i ddod.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod byrddau iechyd lleol unigol i raddau helaeth yn cael eu gadael i weithredu manteision y contract - neu beidio - eu hunain, gyda mewnbwn cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru.

Cred ei bod yn hollbwysig i sefydliadau’r GIG atgyfnerthu eu trefniadau ar gyfer gweithio gydag ymgynghorwyr a’u bod yn cyflawni’r broses o gynllunio swyddi yn fwy effeithiol er mwyn sicrhau eu bod yn darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar y boblogaeth leol.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Mae ymgynghorwyr y GIG yn chwarae rôl allweddol yn ein Gwasanaethau Iechyd ac mae tystiolaeth bendant fod y contract ymgynghorwyr a gyflwynwyd yn 2003 wedi gwella’r broses o recriwtio a chadw staff.

“Ond o ystyried natur arwyddocaol y newidiadau sy’n ofynnol ar y byrddau iechyd lleol yng Nghymru, mae’r diffyg arweinyddiaeth strategol gan Lywodraeth Cymru yn bryder a chredwn y dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau’r gwerth mwyaf i’r cyhoedd o’r contract ymgynghorwyr presennol.

“Mae ymroddiad ymgynghorwyr unigol i ddiwallu anghenion cleifion yn gymeradwy. Ond nid ydym o’r farn bod y sefyllfa bresennol, gyda chymaint yn gweithio oriau mor hir yn gyson, yn gynaliadwy.

“Rydym yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi darparu arweinyddiaeth fwy dynamig a strategol mewn perthynas â nifer o faterion allweddol sy’n ymwneud â’r contract ymgynghorwyr.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud naw argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amserlen o’i chamau gweithredu er mwyn dangos arweiniad strategol ar gyfer trefniadau cynllunio swyddi yng Nghymru, gan gynnwys datblygu cyfarwyddyd Cymru gyfan a sut mae’n bwriadu dwyn byrddau iechyd lleol i gyfrif am ei weithredu;

  • bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau’r GIG er mwyn datblygu cyfarwyddyd cenedlaethol ynghylch oriau gwaith meddygon ymgynghorol, a’r camau gweithredu y gall byrddau iechyd lleol eu cymryd er mwyn lleihau’r angen am weithio oriau rhy hir; a

  • bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno diweddaraiadau blynyddol i’r Pwyllgor ar ei gwaith gyda’r byrddau iechyd lleol a’r ddeoniaeth er mwyn datblygu a gweithredu strategaethau penodol ar gyfer recriwtio meddygon ymgynghorol arbenigol i roi sylw i brinder gweithlu ac arbenigedd.

Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran sicrhau'r manteision a fwriadwyd