Comisiwn y Cynulliad yn dangos arweiniad wrth fynd i’r afael â’r targedau ariannol anoddaf erioed

Cyhoeddwyd 24/09/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Comisiwn y Cynulliad yn dangos arweiniad wrth fynd i’r afael â’r targedau ariannol anoddaf erioed

24 Medi 2010

Mae Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol wedi tanlinellu ei ymrwymiad i ddangos arweiniad wrth reoli gostyngiadau yn wyneb hinsawdd ariannol anodd drwy gytuno i leihau ei gyllideb o £1.667miliwn yn 2011-12, gostyngiad o 5 y cant.

Hwn yw cam cyntaf ymrwymiad y Comisiwn i dorri chwarter o gyllideb y Cynulliad erbyn 2015. Mae toriad o 5 y cant yn y gyllideb mewn termau real ar gyfer 2011-12 a gostyngiad cronnol o oddeutu 20-25 y cant erbyn mis Mawrth 2014, ac eithrio costau untro yr etholiad.

Bydd staff y Cynulliad yn cyflawni’r arbedion hyn tra’n cynnal ymrwymiad y Cynulliad i:

  • Warchod busnes craidd y Cynulliad;

  • Trosglwyddo’n llwyddiannus i’r Pedwerydd Cynulliad;

  • Gwneud y newidiadau angenrheidiol yn dilyn y refferendwm ar ragor o bwerau i’r Cynulliad; a

  • Cynllunio ar gyfer llai o adnoddau gan y bydd graddfa’r toriadau sydd i’w gwneud y tu hwnt i 2011-12 yn golygu newid sylfaenol.

Mae’r Comisiwn eisoes wedi cymryd camau i sicrhau arbedion, yn cynnwys edrych ar y modd y caiff swyddi gwag eu llenwi. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni’r gostyngiad o 5 y cant yng nghyllideb 2011/12, bydd y Comisiwn hefyd yn gwneud:

  • gostyngiad o £1.4miliwn(4.4 y cant) mewn cost cyflogau a gyflawnir drwy gynlluniau gadael yn gynnar a gynigiwyd i staff a rheolau tynnach o ran recriwtio;

  • gostyngiad o £1.1miliwn (3.4 y cant) mewn costau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu drwy reoli newid mewn gwasanaethau a gaiff eu darparu drwy gontractau a chwblhau prosiectau TG fel System Gwaith Achos yr Aelodau sy’n gwneud iawn am godiadau anorfod a ddaeth yn sgîl costau gwefan a thrwyddedau, gan sicrhau gostyngiad net o £0.7miliwn;

  • gostyngiad o £0.6miliwn (1.9 y cant) mewn costau adeiladau drwy addasu targedau darparu a pherfformiad i adlewyrchu blaenoriaethau newydd. Mae hwn hefyd yn cynnwys lleihau gwariant contract a lleihau neu gael gwared ar gymorthdaliadau i gwsmeriaid mewnol, er enghraifft drwy edrych yn fanwl ar ein darpariaeth gwasanaeth arlwyo a pharcio ceir. Mae hyn yn gwneud iawn am godiadau anorfod, i sicrhau gostyngiad net o £0.4miliwn;

  • £0.6 miliwn (1.9 y cant) yn deillio o adolygu meysydd yn y gyllideb lle y bydd llai o alw neu y byddant yn cael eu rheoli i’w lleihau, fel costau recriwtio a chostau teithio a deunyddiau swyddfa. Hefyd tynnu arian ar gyfer gweithgareddau untro fel cynllun mentora yr Aelodau a rhaglen datblygu arweinyddiaeth i staff. Mae hwn yn gwneud iawn am godiadau anorfod, i sicrhau gostyngiad net o £0.3 miliwn; a

  • gostyngiad o £0.5 miliwn (1.6 y cant) mewn costau ymgysylltu â’r cyhoedd a chyfathrebu sy’n deillio o gwblhau costau untro a oedd yn gysylltiedig â phrosiect y Pierhead a newid yn y modd y darperir y gwasanaeth.

Hefyd mae newid strwythurol i broses y gyllideb eleni o ganlyniad i greu Bwrdd Taliadau annibynnol sy’n gyfrifol am bennu cyflog a lwfansau Aelodau. Wedi sefydlu’r Bwrdd, bydd y Comisiwn yn rhannu gwariant i ddwy ran ar wahân. Mae un ar gyfer y gwariant a fydd yn parhau i fod o dan reolaeth uniongyrchol y Comisiwn, sef cyllideb gwasanaethau’r Cynulliad; y llall yw gwariant a fydd yn cael ei benderfynu gan y Bwrdd Taliadau, a fydd â chyfrifoldeb am ddyrannu’r lwfansau a’r taliadau ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’u staff. .

Mae Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad yn parhau’n gyfrifol am y ddau faes gwariant yn ei swyddogaeth fel Swyddog Cyfrifyddu.

“Rydym mewn hinsawdd ariannol anodd ac mae’n iawn bod Comisiwn y Cynulliad yn chwarae ei ran i sicrhau arbedion,” meddai Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad.

“Rydym wedi ymrwymo i wneud gostyngiadau yn ein cyllideb ond chaiff y rhain mo’u gweithredu er niwed i brif swyddogaethau’r corff hwn, sef cynrychioli a deddfu ar gyfer pobl Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

“Rwy’n hyderus y gall ein timau ymateb i’r heriau hyn – maent wedi ymrwymo’n llwyr i’r Cynulliad, a chyda ffocws clir ar flaenoriaethau, byddwn yn sicrhau ein bod yn cyflawni arbedion ac yn cynnal gwasanaethau effeithiol ar gyfer y Cynulliad”.