Comisiwn y Senedd yn arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog

Cyhoeddwyd 11/11/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/11/2025

Mae Comisiwn y Senedd wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, gan arwyddo ei gefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog. 

Mae cyhoeddiad heddiw yn ymrwymo'r sefydliad i gynnal egwyddorion allweddol Cyfamod y Lluoedd Arfog, sef: 

  • Ni ddylai unrhyw aelod o Gymuned y Lluoedd Arfog wynebu anfantais gyda darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a masnachol o’i gymharu ag unrhyw ddinesydd arall 
  • Mewn rhai amgylchiadau, gall triniaeth arbennig fod yn briodol yn enwedig ar gyfer y rhai sydd wedi'u hanafu neu mewn profedigaeth. 

Mae Comisiwn y Senedd yn falch o gydnabod cyfraniad personél sy'n gwasanaethu, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol i'r wlad.