Comisiynydd Safonau y Cynulliad Cenedlaethol yn lansio gwefan newydd

Cyhoeddwyd 19/12/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Comisiynydd Safonau y Cynulliad Cenedlaethol yn lansio gwefan newydd

19 Rhagfyr 2012

Mae Gerard Elias QC, Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi lansio gwefan newydd.

Ei nod yw gwneud trefniadau safonau ymddygiad yr Aelodau yn fwy agored a thryloyw.

Bydd y wefan, http://comisiynyddsafonaucymru.org, yn cynnwys gwybodaeth am rôl y Comisiynydd, Cod Ymddygiad Aelodau’r Cynulliad a sut i wneud cwyn os ydych yn meddwl bod Aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad.

Dywedodd Mr Elias: “Yn 2009, cyflwynodd Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol y Mesur Comisiynydd Safonau i gryfhau rôl y Comisiynydd Safonau ac i wneud y system yn fwy tryloyw ac annibynnol.”

“Rydw i wedi sefydlu gwefan newydd a fydd, yn fy marn i, yn dangos pa mor annibynnol, tryloyw ac agored yw swydd y Comisiynydd gan ei bod yn bodoli ar wahân i wefan y Cynulliad ac yn annibynnol arni.”

“Fy rôl i yw cynnal enw da’r sefydliad, gwarchod safonau a mynd i’r afael â phryderon ynghylch ymddygiad Aelodau’r Cynulliad.”

“Gall pleidleiswyr yng Nghymru ymweld â gwefan y Comisiynydd Safonau i wybod rhagor am y gwaith rwy’n ei wneud, ac i wybod sut i ddefnyddio’r broses os ydynt yn teimlo bod Aelod wedi torri’r safonau ymddygiad sy’n ddisgwyliedig arnynt gan y Cynulliad.”