Committee hears evidence on Welsh Government progress in E-Coli prevention

Cyhoeddwyd 22/06/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yn clywed tystiolaeth am gynnydd Llywodraeth Cymru i atal E.Coli

22 Mehefin 2010

Ddydd Iau (24 Mehefin), bydd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn clywed tystiolaeth am yr hyn sy’n cael ei wneud i atal achos arall o E.Coli yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor yn clywed gan yr Athro Hugh Pennington, sef cadeirydd ymchwiliad cyhoeddus yn dilyn yr achosion yn 2005. Bryd hynny, cafwyd cyfanswm o 157 o achosion mewn ardaloedd yng Nghymru.

O’r 157 hynny, aethpwyd â 31 ohonynt i’r ysbyty gydag E.Coli, a bu un bachgen pum mlwydd oed, Mason Jones, farw o E.Coli.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried tystiolaeth gan Sharon Mills , mam Mason, a Julie Price, mam Garyn, a gafodd ei heintio ag E.Coli hefyd gan ddioddef methiant arennol, cyn gwella yn y pen draw.

Daeth yr adroddiad, a gyhoeddwyd yn sgil yr ymchwiliad, i’r casgliad y dylai’r gofynion hylendid bwyd a oedd ar waith ar y pryd fod wedi bod yn ddigon i atal yr achos.

Er hyn, gwnaeth yr Athro Pennington 24 o argymhellion i ddiogelu rhag achosion yn y dyfodol.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried pa gynnydd sydd wedi bod i weithredu’r argymhellion hynny.

Bydd tystiolaeth gan Llais Defnyddwyr Cymru a’r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn cael eu hystyried.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yma

Gellir gweld Adroddiad Pennington yma

Cynhelir cyfarfod y Pwyllgor am 12.45 ddydd Iau 24 Mehefin yn Ystafell Bwyllgora 3. Dylai unrhyw un sydd am ddod i wylio’r cyfarfod ffonio’r llinell archebu ar 0845 010 5500 neu drwy anfon e-bost i archebu@cymru.gsi.gov.uk.

Gellir gwylio holl gyfarfodydd pwyllgorau a Chyfarfodydd Llawn y Cynulliad Cenedlaethol yn fyw ar www.senedd.tv. Gellir gweld a defnyddio clipiau o’r cyfarfodydd ar ôl iddynt gael eu darlledu.