Côr Plant Destiny Africa yn dychwelyd i’r Pierhead - 1 Tachwedd 2011

Cyhoeddwyd 26/10/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Côr Plant Destiny Africa yn dychwelyd i’r Pierhead - 1 Tachwedd 2011

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd Côr Plant Destiny Africa, yn dilyn eu hymweliad llwyddiannus fis Mai diwethaf, yn dychwelyd i Gymru i berfformio yn y Pierhead nos Fawrth 1 Tachwedd.

Bydd y perfformiad, sy’n rhan o’u taith Ewropeaidd “Rhythms of Life”, yn rhoi cyfle i’r gynulleidfa ddysgu am stori ysbrydoledig y plant, sy’n dod o Ganolfan Blant Kampala yn Uganda.

Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i weld Côr Plant Destiny Africa yn y Pierhead, a gellir gwneud cais am le drwy gysylltu ag Archebu@Cymru.gov.uk neu 0845 010 5500.