Coronafeirws: Cynulliad Cenedlaethol i gynnal ei sesiwn seneddol 'rithwir' gyntaf

Cyhoeddwyd 31/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

Oherwydd y cyfyngiadau ledled y wlad ar gyfer atal lledaeniad y Coronafeirws, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn newid ei ffordd o weithio; mae cyfres o ddarpariaethau brys ar waith i sicrhau bod y Cynulliad yn gallu parhau â busnes hanfodol yn ymwneud â COVID-19. 

Yn dilyn cynnal cyfarfod llai, dan drefn ‘Senedd frys’, yr wythnos diwethaf, mae Pwyllgor Busnes y Cynulliad nawr wedi penderfynu newid i gynnal Cyfarfodydd Llawn ‘rhithwir’, gan ddefnyddio’r cyfleusterau fideo gynadledda Zoom. 
 
Yr wythnos hon, bydd Cyfarfod Llawn y Cynulliad yn dechrau am 2 y prynhawn ar ddydd Mercher 1 Ebrill gydag Elin Jones, y Llywydd, yn cadeirio. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn clywed datganiadau gan y Prif Weinidog, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, a bydd cyfle iddynt ofyn cwestiynau.  
 
Mae grwpiau'r pleidiau wedi cytuno i gyfyngu’r nifer o’u haelodau fydd yn bresennol yn y cyfarfod, gan ddefnyddio model y 'Senedd frys' a ddefnyddiwyd ar gyfer y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf. Bydd Llafur yn enwebu 6 Aelod i gymryd rhan; bydd y Ceidwadwyr yn enwebu 3; Plaid Cymru 2; a Phlaid Brexit 1. Mae gan bob Aelod sydd ddim yn aelod o grŵp yr hawl i fynychu.   

Mae rheolau'r Cynulliad wedi eu diwygio fel mai dim ond 4 Aelod sydd eu hangen i bleidleisiau yn y Cyfarfod Llawn fod yn ddilys.  

Fel arfer, byddai'r Cynulliad Cenedlaethol mewn toriad erbyn hyn. Fodd bynnag, oherwydd argyfwng y Coronafeirws a mesurau brys Llywodraeth Cymru, bydd Aelodau'r Cynulliad yn parhau i gwrdd (dros y we) i gefnogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a chraffu arnynt.  

Bydd modd gwylio Cyfarfod Llawn y Cynulliad fel recordiad ar Senedd.tv wedi diwedd y sesiwn.