COVID-19: Croesawu cymorth i fusnesau ond diffyg cefnogaeth yn dal i fodoli

Cyhoeddwyd 04/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Senedd yn amlinellu canfyddiadau cynnar o'i ymchwiliad i COVID-19

  • Mae'r pandemig yn cael effaith wahanol mewn rhanbarthau gwahanol yng Nghymru
  • Mae'r diwydiannau twristiaeth a lletygarwch yn cael eu taro'n arbennig o wael
  • Bydd cynghorau lleol yn ei chael hi'n anodd gorfodi mesurau cadw pellter cymdeithasol er mwyn i fusnesau fedru ailagor yn ddiogel
  • Pryderon ynghylch sut y bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn ymdopi â chadw pellter cymdeithasol; sut y bydd gweithredwyr yn ymdopi gyda gostyngiad sylweddol mewn incwm ac a oes digon o fysiau, trenau a gyrwyr i ateb y galw?

Mae economi Cymru'n cael ei tharo'n galed yn ystod argyfwng COVID-19 ac mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Senedd wedi bod yn edrych ar y gefnogaeth sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru, ac yn gofyn i fyd busnes a oes digon yn cael ei wneud?

Mae Gweinidogion ac arweinwyr busnes wedi bod yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor, gan ganolbwyntio'n benodol ar fesurau sy'n cael eu cymryd i gefnogi'r economi, trafnidiaeth gyhoeddus a rhaglenni sgiliau a phrentisiaethau.

Russell George AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau:

"Does dim amheuaeth bod Cymru'n cael ei tharo'n galed iawn gan y pandemig COVID-19. Ar gyfartaledd, mae mwy o weithwyr wedi cael eu rhoi ar ffyrlo yng Nghymru nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU. Mae ein Pwyllgor wedi bod yn edrych ar bob agwedd o'r modd y mae swyddi, busnesau, trafnidiaeth a phrentisiaethau wedi eu heffeithio.

"Ar ran pawb sy'n cael eu heffeithio, rydym yn gofyn cwestiynau o bwys mawr i Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod y gefnogaeth gywir ar waith i bobl a busnesau. Rydym i gyd eisiau sicrhau ein bod yn ddiogel a bod ein heconomi yn y sefyllfa orau i adfywio wrth i bethau ddychwelyd i 'normal newydd'.

"Rydym yn gwrando ar arbenigwyr a busnesau ac yn bwysicaf oll, ar bobl Cymru, wrth i ni ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif."

Cefnogi busnesau

Wrth annerch y Pwyllgor, dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates AS, fod Cymru wedi cael ei tharo'n arbennig o galed gan y pandemig. Cymru sydd â'r gyfran uchaf o fusnesau sy'n gwneud cais i'r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (rhoi gweithwyr ar ffyrlo) a'r gyfran uchaf o fusnesau sy'n gwneud cais yn gyffredinol am gynlluniau Llywodraeth y DU.

Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru ei hun i fusnesau yn cynnwys:

  • Cynllun benthyciadau gwerth £100 miliwn i helpu mwy na 1,000 o fusnesau drwy Fanc Datblygu Cymru
  • Cynllun grantiau'r Gronfa Cadernid Economaidd gwerth £400 miliwn sydd wedi denu mwy na 9,500 o geisiadau cam 1, gyda dros 6,000 o gynigion gwerth mwy na £100 miliwn eisoes wedi'u gwneud
  • Cymorth grant ar sail ardrethi annomestig i fusnesau bach a busnesau sy'n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, sydd wedi dyfarnu 51,100 o grantiau gwerth mwy na £626 miliwn hyd yma.

Er bod sefydliadau busnes fel y CBI, Ffederasiwn y Busnesau Bach a Chyngres yr Undebau Llafur wedi dweud wrth y Pwyllgor eu bod yn gefnogol i'r mesurau hyn ar y cyfan, fe ddywedon nhw bod yna fylchau a bod rhai busnesau yn dal yn ei chael yn anodd. Yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach, mae'r rheini sydd wedi syrthio trwy'r bylchau yn cynnwys:

  • Pobl hunangyflogedig heb gyfrifon diweddar oherwydd eu bod newydd ddod yn hunangyflogedig neu oherwydd eu bod wedi cymryd amser i ffwrdd ar ôl cael plant;
  • Busnesau nad ydyn nhw'n gweithredu o eiddo gyda llawer o'r cymorth yn gysylltiedig â bod ag eiddo;
  • Cwmnïau nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer TAW.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn pryderu bod y pandemig yn effeithio ar ranbarthau Cymru mewn gwahanol ffyrdd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn, yn benodol pa newidiadau y gallai fod eu hangen i strwythurau cymorth rhanbarthol cyfredol, neu flaenoriaethau economaidd rhanbarthol.



 

Sut y mae’r coronafeirws wedi effeithio ar eich busnes a sut, yn eich barn chi, mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli’r ymateb?

Rhannwch eich barn >

 


 

Twristiaeth

Mae sefydliadau fel Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi codi pryderon gyda'r Pwyllgor y bydd yr argyfwng COVID-19 yn cael effaith anghyfartal ar y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch.

Mae twristiaeth yn debygol iawn o golli tymor yr haf eleni, sef yr adeg y bydd mwyafrif y busnesau twristiaeth yn gwneud y rhan helaethaf o'u hincwm, a bydd pellter cymdeithasol yn gostwng nifer y cwsmeriaid mewn sefydliadau lletygarwch yn sylweddol.

Cynghorau lleol sy'n gyfrifol am roi grantiau i fusnesau, ac mae aelodau'r Pwyllgor yn bryderus wedi clywed bod gwahaniaethau'n bodoli rhwng awdurdodau lleol wrth ddarparu grantiau. Cafodd y pwyllgor wybod bod rhai cynghorau yn cymryd mwy o amser nag eraill i ddarparu cymorth ariannol, ac mae bellach yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data perfformiad ar ba mor gyflym y mae awdurdodau lleol yn darparu grantiau cymorth busnes.

Diogelwch yn y gweithle

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd yn amlinellu ffyrdd y gall pobl ddychwelyd i'r gwaith yn ddiogel, a sut y gall busnesau weithredu wrth gadw pellter cymdeithasol.

Fe'i gwnaed yn glir i'r Pwyllgor gan gynrychiolwyr yr undebau llafur nad ydynt o'r farn bod awdurdodau lleol mewn sefyllfa i fonitro'r rheoliadau newydd yn ddigonol, gan fod yr adrannau'n rhy fach ac oherwydd bod awdurdodau lleol eisoes yn ei chael hi'n anodd.

Codwyd pryderon hefyd gan Gyngres yr Undebau Llafur bod ôl troed yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yng Nghymru yn rhy fach, a'u bod hwythau hefyd yn ei chael hi'n anodd. Ar 12 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n sicrhau bod hyd at £14 miliwn ar gael i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gyfer gweithwyr, arolygwyr a chyfarpar ychwanegol yn y canolfannau galwadau.

Mae'r Pwyllgor yn gofyn i Lywodraeth Cymru esbonio sut y bydd yn monitro capasiti awdurdodau lleol a sefydliadau eraill sy'n gyfrifol am orfodi cydymffurfiaeth â'r rheoliadau a chanllawiau diogelwch wrth i fusnesau ailagor.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae nifer y teithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus wedi gostwng yn sylweddol o ganlyniad i'r pandemig ac mae mwyafrif y cwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg llai o wasanaethau o lawer. Cyn y pandemig roedd bysys ar rai o'r llwybrau yn ystod oriau brig yn llawn a bu problemau amlwg o ran gorlenwi ar Gledrau'r Cymoedd, a bu Trafnidiaeth Cymru'n cael trafferth dod o hyd i drenau newydd i gymryd lle'r fflyd sy'n heneiddio.

Bydd cadw pellter cymdeithasol yn ei gwneud yn ofynnol i fysiau a threnau weithredu ar lefelau capasiti o 10% ar y mwyaf. Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu a oes gan rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru'r gallu i ddarparu gwasanaethau ar yr un pryd â sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol yn effeithiol, ac i roi manylion unrhyw gamau a gymerir i gynyddu capasiti.

 


 

Dweud eich dweud

Sut y mae’r coronafeirws wedi effeithio ar eich busnes a sut, yn eich barn chi, mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli’r ymateb?

Rhannwch eich barn >