Covid-19: Cymru yn wynebu 'bwgan ar y gorwel' o ran cynnydd dramatig mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc

Cyhoeddwyd 19/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

​Gallai Cymru wynebu cynnydd sydyn yn nifer y bobl ifanc sy'n ddi-waith oni bai bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar frys.

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Senedd wedi bod yn edrych ar effaith Covid-19 ar y sector sgiliau yng Nghymru, gan gynnwys cyfleoedd prentisiaeth a'r rhagolygon o ran cyflogaeth ar gyfer y degau o filoedd o fyfyrwyr coleg a phrifysgol sydd i fod i raddio yr haf hwn.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar y Llywodraeth i nodi ar frys yr arian sydd ar gael ar gyfer prentisiaethau dros y flwyddyn nesaf i helpu i atal rhagolygon cyflogaeth cenhedlaeth o bobl ifanc rhag arafu.

Yn ei ganfyddiadau cynnar, dywedodd yr Athro Ewart Keep o'r Adran Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen wrth y Pwyllgor:

"(Mewn) marchnad lafur ac ynddi lawer o ymgeiswyr ond nifer cymharol fach o leoedd, un o'r prif bethau maen nhw'n chwilio amdano yw profiad gwaith perthnasol, ac mae pobl ifanc heb brofiad o dan anfantais o gymharu ag oedolion."


 

Sut y mae’r coronafeirws wedi effeithio ar eich busnes a sut, yn eich barn chi, mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli’r ymateb?

Rhannwch eich barn >

 


Clywodd y Pwyllgor am yr effaith y gallai toriadau cyllid disgwyliedig ei chael ar brentisiaethau a rhagolygon hyfforddi eraill. Rhybuddiodd Dafydd Evans o Golegau Cymru y byddai toriad o 10 y cant yng ngwerth y contract y flwyddyn nesaf yng Ngogledd Cymru mewn gwirionedd yn arwain at doriad brawychus o 50 y cant o ran myfyrwyr newydd sy'n gallu dechrau cyrsiau yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Dywedodd Jeff Protheroe o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru:

"(gyda'r) gostyngiad sylweddol o ran y cyllid a fydd ar gael yn y dyfodol, rydym yn ystyried y caiff swyddi eu dileu."

Rhybuddiwyd y Pwyllgor hefyd y gallai economi ansicr olygu bod cyflogwyr yn defnyddio rhagor o gontractau dim oriau i ddefnyddio 'llafur fesul awr', ac y byddai newidiadau o'r fath yn lleihau nifer y cyfleoedd dysgu strwythuredig.

Dywedodd Russell George AS, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Mae gan y Pwyllgor bryderon mawr am yr hyn sy'n cael ei ystyried yn un o brif heriau'r pandemig erchyll hwn yn y tymor hwy: cynnydd dramatig tebygol mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc.

"Os nad yw Llywodraeth Cymru'n gweithredu, mae'n gynnydd sy'n bygwth creithio ac arafu rhagolygon cyflogaeth cenhedlaeth o bobl ifanc a rhwystro'r adferiad cenedlaethol.

"Bydd erydu seilwaith sgiliau Cymru yn gwaethygu'r argyfwng hwn ymhellach i bobl ifanc ac oedolion sy'n gobeithio ailhyfforddi neu ddatblygu eu sgiliau."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud wyth o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i sicrhau bod cyfleoedd profiad gwaith strwythuredig o ansawdd uchel yn rhan o gynllun adferiad Cymru, yn enwedig i bobl o gefndiroedd difreintiedig;
  • Dylai Llywodraeth Cymru nodi ei safbwyntiau ynghylch y rhybudd y bydd cynnydd mewn llafur fesul awr yn arwain at ostyngiad o ran hyfforddiant sgiliau; a
  • Dylai Llywodraeth Cymru nodi ar frys pa gyllid fydd yn cael ei roi i brentisiaethau dros y flwyddyn nesaf, gan gynnwys nodi'r symiau y bwriedir eu tynnu o gyllid yr UE, a'r "gronfa frwydro" o ran Covid-19.

Bydd y Pwyllgor yn parhau i edrych ar yr effaith y mae Covid-19 yn ei chael ar economi Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ei argymhellion diweddaraf.

 


 

Dweud eich dweud:

Sut y mae’r coronafeirws wedi effeithio ar eich busnes a sut, yn eich barn chi, mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli’r ymateb?

Rhannwch eich barn >