COVID-19: Cynlluniau parodrwydd Llywodraeth Cymru yn rhy ddibynnol ar hunanasesu

Cyhoeddwyd 10/03/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/03/2026   |   Amser darllen munudau

Nid oes digon o wirio annibynnol yn perthyn i gynlluniau Cymru ar gyfer argyfyngau posibl ar ôl COVID-19 i roi hyder y byddent yn gwrthsefyll argyfwng mawr arall. Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd yn galw am werthusiad annibynnol cadarn o strwythurau diwygiedig Llywodraeth Cymru i fesur pa mor effeithiol y maent yn gweithio'n ymarferol.

Mae adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 11 Mawrth 2026), yn archwilio sut y mae’r gwersi a ddysgwyd yn sgil ymateb Cymru i COVID-19 wedi cael eu cymhwyso i'r trefniadau ar gyfer argyfyngau posibl sy’n bodoli ar hyn o bryd. Nod ymchwiliad y Pwyllgor oedd archwilio’r bylchau a nodwyd yn Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 y DU: Cadernid a Pharodrwydd, fel y maent yn ymwneud ag ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru yn ystod pandemig COVID-19. 

Er bod diwygiadau pwysig wedi cael eu cyflwyno – gan gynnwys Fframwaith Gwydnwch Cymru a strwythurau llywodraethu wedi'u diweddaru – clywodd y Pwyllgor fod pryderon yn cael eu mynegi o hyd am y sefyllfa o ran monitro, atebolrwydd, a diffyg gwirio allanol. 

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cryfhau ei system ar gyfer gwerthuso argyfyngau sifil posibl drwy gyflwyno dangosyddion perfformiad clir, wedi'u hategu gan dystiolaeth wedi’i chadarnhau’n annibynnol, i ddangos yn bendant a ydym yn gweld gwelliannau mesuradwy o ran y ffordd yr ydym yn ymateb i argyfyngau. Mae hefyd angen cryfhau’r integreiddio a’r cymorth a ddarperir i ymatebwyr brys, gan gynnwys y sector gwirfoddol, sy’n gwneud cyfraniad amhrisiadwy. 

Dywedodd Mark Isherwood, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus:

“Efallai bod Llywodraeth Cymru wedi paratoi’n well heddiw nag yr oedd cyn pandemig COVID-19, ond nid yw parodrwydd sy’n seiliedig ar hunanasesu yn unig yn ddigon. Dylai pobl Cymru deimlo'n hyderus y bydd ein systemau'n gallu ymdopi o dan bwysau, ac mae sicrhau bod cynlluniau ar gyfer argyfyngau yn destun craffu allanol yn gam hanfodol o ran meithrin gwydnwch gwirioneddol.

“Mae’r dystiolaeth hefyd yn dangos bod y systemau ar gyfer ymateb i argyfyngau yn rhy gymhleth, a bod ein sector gwirfoddol amhrisiadwy yn parhau i gael ei ddiystyru. Mae angen proses gliriach o gydlynu a system gwbl integredig sy'n sicrhau bod ymatebwyr yn cael y gefnogaeth i berfformio ar eu gorau.

“Rydym yn ddiolchgar i bob tyst a gyfrannodd at y gwaith hwn, ac rydym yn falch o’r ffaith ein bod wedi cyflwyno’r argymhellion hyn cyn diwedd y Senedd. Rydym yn argymell yn gryf bod y gwaith hwn yn parhau, a bod ymchwiliadau tebyg yn cael eu cynnal ar gyfer y modiwlau sy'n weddill o ymchwiliad COVID-19 y DU yn y Senedd nesaf.

“Yn anad dim, rhaid i ni beidio ag anghofio’r bobl a gollodd eu bywydau, na’r teuluoedd sy’n parhau i ddioddef y galar hwnnw. Rydym yn gobeithio y bydd ein hargymhellion yn helpu i wella gwydnwch yn y dyfodol, a rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad yw trasiedi o’r fath yn digwydd eto."

Proses gydlynu gwell gydag ymatebwyr brys

Gwnaeth ymatebwyr brys – yn enwedig y gwasanaethau tân ac ambiwlans – godi pryderon sylweddol ynghylch cymhlethdod y system argyfyngau sifil posibl. Gwnaethant ddweud wrth y Pwyllgor eu bod yn wynebu pwysau parhaus wrth geisio gwasanaethu pedwar Fforwm Lleol Cymru Gydnerth a nifer o is-grwpiau, gan arwain at oedi, dyblygu, a diffyg eglurder wrth wneud penderfyniadau yn ystod argyfyngau.  

Galwodd ymatebwyr am sianeli cyfathrebu cliriach, cyfrifoldebau ac atebolrwydd wedi'u diffinio'n dda, cydlynu trawsffiniol gwell, a gwelliannau o ran sut mae gwybodaeth yn cael ei rhannu yn ystod argyfwng. Gwnaethant dynnu sylw hefyd at bwysigrwydd ymarferion parodrwydd, sy'n efelychu ystod o wahanol senarios brys ac yn profi’r ymateb iddynt o ran straen. Nodwyd bod yr ymarferion hyn yn wynebu heriau sylweddol o ran adnoddau, wrth geisio cydbwyso’r angen i ddarparu gwasanaethau rheng flaen hanfodol â’r angen i baratoi ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol.

Dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru:

“Rydym yn diolch i’r Pwyllgor am roi’r cyfle inni ddarparu tystiolaeth yn ystod ei ystyriaeth o’r camau a gymerwyd yng Nghymru yn dilyn canlyniadau Modiwl 1 o Ymchwiliad Covid y DU.

“Byddwn yn cymryd ei ganfyddiadau o ddifrif. Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr yn gweithio’n anhygoel o galed i amddiffyn a gofalu am bobl, yn enwedig yn ystod cyfnodau o argyfwng.

“Mae strwythurau cydlynol, llinellau atebolrwydd clir a rhannu gwybodaeth effeithiol yn hanfodol os ydym am ymateb yn gyflym ac yn ddiogel pan fydd pobl ein hangen fwyaf.

“Felly hefyd yw ymarfer ein pobl a phrofi systemau, y mae’n rhaid cydbwyso’r ddau ochr yn ochr â’r heriau parhaus o ddarparu gwasanaethau o ddydd i ddydd.”

Y sector gwirfoddol yn cael ei danddefnyddio

Canfu'r Pwyllgor hefyd nad yw ymatebwyr gwirfoddol a chymunedol – gan gynnwys y Groes Goch Brydeinig, sefydliadau ar gyfer pobl anabl a sefydliadau dibynadwy eraill – wedi'u hintegreiddio'n ddigonol yn y broses gynllunio a’r broses o ymateb i argyfyngau. Tynnwyd sylw at rwystredigaethau o ran y broses o rannu data, sydd wedi cyfyngu ar eu gallu i gefnogi cymunedau'n llawn yn ystod argyfyngau a welwyd yn ddiweddar – fel llifogydd – er gwaethaf eu gallu a'u profiad.

Dywedodd Katija Dew, Cyfarwyddwr Dros Dro’r Groes Goch Brydeinig yng Nghymru:

“Dangosodd y pandemig sut y gall sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat Cymru gydweithio i gefnogi pobl yn ystod argyfwng. Mae’r sector gwirfoddol yn bartner hanfodol i’r llywodraeth, a’r gwasanaethau brys. Wedi’n hymgorffori o fewn cymunedau, rydym mewn sefyllfa unigryw i weithredu’n gyflym ac yn ymddiriedus.

“Pan fydd systemau’n gweithio’n dda, gallwn ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i anghenion pobl. Pan nad ydynt, gall olygu bod cymunedau’n aros am gymorth y mae’r sector gwirfoddol yn barod ac yn gallu ei ddarparu. Drwy gryfhau mecanweithiau cynllunio ac ymateb ymarferol a diffinio rolau gwahanol sefydliadau’n glir, gallwn sicrhau cymorth cyflymach a mwy cydlynol ledled Cymru. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’n partneriaid statudol i wneud i hynny ddigwydd.”

Mae'r adroddiad wedi'i anfon at Lywodraeth Cymru, a bydd y canfyddiadau'n cael eu trafod gan Aelodau o'r Senedd mewn dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 18 Mawrth 2026. 

Mwy am y stori yma

Darllenwch am waith y Pwyllgor ar y pwnc