COVID-19: Yr Effaith ar y Gymraeg

Cyhoeddwyd 05/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

​Yr wythnos hon, wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal ar-lein am y tro cyntaf erioed, mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd yn nodi sut y mae'n archwilio effaith COVID-19 ar y Gymraeg. Mae'r Pwyllgor am sicrhau na fydd ailflaenoriaethu cyllid Llywodraeth Cymru yn effeithio ar ei tharged i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor yn archwilio ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i effaith argyfwng COVID-19 ar feysydd o fewn ei gylch gwaith gan gynnwys diwylliant, y celfyddydau, yr amgylchedd hanesyddol, cyfathrebu, darlledu a'r cyfryngau. Fel rhan o'r gwaith hwn, mae'r Pwyllgor yn ystyried effaith y pandemig ar y Gymraeg.

Mae'r Pwyllgor eisoes wedi derbyn tystiolaeth ysgrifenedig gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Urdd Gobaith Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg.

Ym mis Mehefin, ysgrifennodd Helen Mary Jones AS, Cadeirydd y Pwyllgor, at Lywodraeth Cymru i gael esboniad o ran y dyraniadau cyllid i gefnogi'r Gymraeg yng Nghyllideb Atodol Gyntaf y Llywodraeth ar gyfer 2020-21, i sicrhau na fyddai ailflaenoriaethu cyllid yn y byrdymor yn effeithio ar uchelgeisiau hirdymor i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn ôl Helen Mary Jones AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu:

"Rydym wedi gweld y pandemig hwn yn effeithio ar bob agwedd o fywyd ein cenedl, ac mae hynny'n cynnwys cyfleoedd i ddysgu, gweithio a chymdeithasu yn Gymraeg, i bobl o bob oed.

Mae ein pwyllgor am wybod faint o effaith y mae Covid wedi'i chael ar y Gymraeg dros y misoedd diwethaf a sut y gallai hynny effeithio ar ymdrechion i gyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

"Fel arfer, yn ystod yr haf bydd pobl ledled Cymru yn dod at ei gilydd i fwynhau wythnos o'r gorau o ddiwylliant Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol – mae hefyd yn gyfle gwerthfawr i'r rhai sy'n dysgu i ddefnyddio eu Cymraeg. Felly, byddwn yn edrych ar yr effaith ar yr Eisteddfod a'r newid angenrheidiol eleni i ŵyl ar-lein."

Yn ogystal â gwahodd barn yn ysgrifenedig, bydd y Pwyllgor yn casglu tystiolaeth lafar o fis Medi ymlaen. Bydd hyn hefyd yn rhoi darlun llawnach o effaith yr argyfwng ar ddigwyddiadau'r haf fel yr Eisteddfod Genedlaethol.