Treftadaeth Cymru – y sector yn annhebygol o ddychwelyd i’w lefelau incwm cyn y pandemig am flynyddoedd

Cyhoeddwyd 07/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

​Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd yn lansio adroddiad sy'n tynnu sylw at yr argyfwng yn y sector treftadaeth. Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i barhau â'r Cynllun Cadw Swyddi (cynllun ffyrlo) y tu hwnt i fis Hydref.

Castell Conwy

Gyda Llywodraeth y DU yn dechrau dod a'r cynllun ffyrlo i ben y mis hwn (Awst), clywodd y Pwyllgor fod y cynllun yn cael ei ddefnyddio'n helaeth ar draws y sector. Mae 80% o staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, 25% o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru a 40% o staff Amgueddfa Genedlaethol Cymru i gyd ar ffyrlo. Os daw'r cynllun i ben mae risg o ddiswyddiadau.

Bydd llawer yn anoddach i sefydliadau gynhyrchu incwm ar ôl i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio hefyd. Mae'n afrealistig disgwyl i'r sector gynhyrchu digon o incwm i dalu am holl gostau'r dyfodol. Bydd angen y cynllun ffyrlo ar y safleoedd hynny na allant ailagor yn llawn am fod angen mesurau pellhau cymdeithasol parhaus.

Yn ystod yr ymchwiliad COVID-19 hwn mae'r Pwyllgor wedi clywed gan nifer o sefydliadau bod eu hincwm masnachol yn annhebygol o ddychwelyd i'w lefel cyn y pandemig am nifer o flynyddoedd.

Cymorth gan Lywodraeth Cymru

Ar 5 Gorffennaf lansiodd Llywodraeth y DU gronfa £1.57 biliwn i gynorthwyo sefydliadau diwylliant a threftadaeth hanfodol gan gynnwys £59 miliwn i Gymru. Mewn ymateb, ar 30 Gorffennaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gronfa £53 miliwn cronfa i 'ddarparu cefnogaeth hanfodol i theatrau, orielau, lleoliadau cerdd, safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd, orielau, gwasanaethau archif, digwyddiadau a gwyliau, a sinemâu annibynnol'.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i wario pob ceiniog o'r £59 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r sectorau treftadaeth, celfyddydau a diwylliant.

Mae'r argyfwng COVID-19 wedi taro'r sector hwn ar adeg sydd eisoes yn heriol i'r diwydiant. Bu diffyg buddsoddiad cyfalaf yn y gorffennol, a dywedodd yr Amgueddfa Genedlaethol wrth y Pwyllgor fod ganddynt eisoes ôl-groniad cynnal a chadw cyfalaf o £60 miliwn.

Darpariaeth ddigidol

Mae llawer o sefydliadau yn cynnig mynediad digidol i'w casgliadau tra bod y cyfyngiadau symud ar waith, ac mae'r Pwyllgor bellach yn argymell y dylai'r gwaith digidol hwn gael ei gynllunio a'i ddarparu'n briodol. Mae angen i ddarparwyr addysg ac iechyd fod yn rhan o'r gwaith o ddigideiddio ein casgliadau hefyd, er mwyn sicrhau canlyniadau ar gyfer iechyd meddwl a'r cwricwlwm ysgolion sydd â gwir weledigaeth o ran ymgysylltu digidol.

Dywedodd Helen Mary Jones AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu:

"Mae ein hamgueddfeydd, ein harchifau a'n safleoedd treftadaeth yn rhan o'r hyn sy'n gwneud Cymru yn wlad wych i fyw ac ymweld â hi, ond maen nhw i gyd yn wynebu risg difrifol yn sgil COVID-19. Bu bron i'w hincwm ddiflannu'n llwyr yn ystod y cyfyngiadau symud ac mae llawer o staff wedi eu rhoi ar ffyrlo.

"Er i'r cynllun ffyrlo helpu yn y tymor byr, mae'n bosibl y bydd nifer o'r sefydliadau hyn yn wynebu diswyddiadau pan ddaw'r cynllun ffyrlo i ben. Yn ystod yr ymchwiliad, rydym wedi clywed gan nifer o sefydliadau bod eu hincwm masnachol yn annhebygol o ddychwelyd i'w lefel cyn y pandemig am nifer o flynyddoedd. Felly, galwn unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i annog Trysorlys Llywodraeth y DU i barhau â'i gynllun ffyrlo y tu hwnt i fis Hydref 2020.

"Er ein bod yn croesawu'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ymrwymo i gefnogi'r sector, dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pob ceiniog sydd ar gael iddi i helpu gyda'r argyfwng hwn."

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Effaith COVID-19 ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau (PDF, 198 KB)