Creu'r Diwylliant Cywir: Un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn argymell gweithdrefnau urddas a pharch newydd

Cyhoeddwyd 13/09/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Nid oes gan ymddygiad amhriodol unrhyw le mewn senedd. Dylai unrhyw un sy'n teimlo ei fod wedi profi ymddygiad amhriodol fod â hyder llawn y gall roi gwybod amdano ac y caiff ei gymryd o ddifrif, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi bod yn adolygu polisi urddas a pharch Comisiwn y Cynulliad, a gyflwynwyd ar ôl i nifer o achosion o aflonyddu rhywiol neu ymddygiad bwlio ddod i'r amlwg nad oedd wedi cael eu hadrodd yn flaenorol.

Mae'r Pwyllgor yn cydnabod y cynnydd y mae'r Comisiwn wedi'i wneud hyd yn hyn wrth sefydlu llinell gymorth gyfrinachol a darparu gwybodaeth am sut i roi gwybod am ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad.

Ond daeth yr aelodau i'r casgliad y gallai gwybodaeth fod hyd yn oed yn fwy eglur, ac y dylai gweithdrefn adrodd anhysbys gael ei rhoi ar waith. Yn ystod ei ymchwiliad, clywodd y pwyllgor dystiolaeth am systemau tebyg sydd eisoes yn cael eu defnyddio mewn prifysgolion a sefydliadau eraill.

Mae'r Pwyllgor wedi argymell cynnal ymarfer 'siopwr dirgel' ar y canllawiau presennol i sicrhau bod yr holl wybodaeth yn hawdd cael gafael arni ac yn hawdd ei defnyddio.

Mae'r Pwyllgor hefyd am weld sicrhau mwy o gefnogaeth i'r Comisiynydd Safonau annibynnol, gan gynnwys cynnig cyngor i'r rhai sy'n ansicr ynghylch a ddylid gwneud cwyn.

Ystyriodd y Pwyllgor hefyd y mater yn ymwneud ag a oedd Aelod Cynulliad wedi torri'r cod gweinidogol neu god ymddygiad y Cynulliad. Ar hyn o bryd mae gwahaniaeth rhwng pryd y bydd rhywun yn gweithredu fel Aelod Cynulliad neu aelod o'r llywodraeth.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod y gwahaniaeth hwn yn ddryslyd ac mae wedi awgrymu y dylai'r Comisiynydd Safonau annibynnol ystyried pob cwyn, boed yn erbyn rhywun fel Aelod Cynulliad neu weinidog y llywodraeth, er mwyn osgoi amwysedd.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y dylai unrhyw un sy'n gweithio ar ystâd y Cynulliad, naill ai drwy drefniadau contract neu brydles, gytuno i gadw at bolisi urddas a pharch y Cynulliad os nad oes gan ei sefydliad un ar waith. Dylai'r un peth fod yn berthnasol i bawb sy'n cynnal digwyddiad ar yr ystâd.

Dywedodd Jayne Bryant AC, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, "Fel gwleidyddion etholedig, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn gosod y safonau uchaf fel enghraifft i gymdeithas ehangach."

"Rhaid i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb am y math o amgylchedd yr ydym am weithio ynddo.  

"Ni ddylem oddef ymddygiad amhriodol yn ein sefydliad a rhaid tynnu sylw ato ble bynnag rydym yn ei weld.

"Tydw i ddim eisiau i neb feddwl mai dyma ddiwedd y sgwrs ac mae'r Pwyllgor wedi nodi gwaith pellach i'w wneud yn y maes hwn. Rydym yn bwriadu cadw llygad ar hyn er mwyn sicrhau bod gan bobl hyder wrth adrodd am ddigwyddiadau a bod y broses ar gyfer gwneud hynny yn glir. Mae'n hanfodol bod pobl yn  teimlo cefnogaeth ac yn cael sicrwydd bod eu cwyn yn cael ei gymryd o ddifrif. "

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 21 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Bod y Prif Weinidog yn gweithio gyda'r Comisiynydd Safonau i sefydlu protocol erbyn haf 2019 lle caiff pob cwyn ei chyfeirio at swyddfa'r Comisiynydd a bod y Comisiynydd wedi hynny yn llunio adroddiad i'r corff perthnasol;
  • Bod Comisiwn y Cynulliad yn datblygu dull o hysbysu ar-lein sy'n caniatáu i bobl roi gwybod am ddigwyddiadau o ymddygiad amhriodol naill ai'n ddienw neu drwy ddatgeliad ag enw, erbyn haf 2019; a
  • Bod Comisiwn y Cynulliad, mewn prydlesau a chontractau ar gyfer defnyddio ystâd y Cynulliad, yn cynnwys amod bod yn rhaid i sefydliadau gael polisi urddas a pharch a/neu ddilyn polisi'r Cynulliad.

 

Os oes gan unrhyw un unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad rhywun sy'n gweithio ar ystâd y Cynulliad, mae nifer o opsiynau ar gael:

gall llinell ffôn gyfrinachol: 0800 020 9550 helpu i gyfeirio pobl i'r llwybr cywir;

e-bost urddasapharch@cynulliad.cymru; a

Gwefan y Cynulliad - Cwynion am Ymddygiad.

Gall unrhyw un sydd am wneud cwyn am Aelod Cynulliad siarad hefyd â'r Comisiynydd Safonau annibynnol:

Rhif ffôn: 0300 200 6539;

E-bost: Comisiynydd.Safonau@cynulliad.cymru; a

Gwefan - Y Comisiynydd Safonau.