Pryd: 11.30am - 12.15pm, Dydd Mercher, 9 Awst
Lle: Pabell Cymdeithasau 2, Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
Sgwrs Arbennig
Bydd dau o wleidyddion mwyaf blaenllaw Cymru yn cynnal digwyddiad unigryw ar Faes yr Eisteddfod eleni.
Bydd y Llywydd, Elin Jones AS, yn cynnal sgwrs arbennig gyda’r Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, ac yn ei holi am ei fagwraeth yng Nghaerfyrddin, ei gariad at gerddoriaeth, ei werthoedd a’i wleidyddiaeth, a’i berthynas gyda’r Gymraeg.
Bydd cyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau ar ddiwedd y sesiwn. Cyntaf i'r felin fydd yr unig ffordd i sicrhau lle yn y babell.
Darllenwch mwy am weithgareddau'r Senedd yn yr Eisteddfod yma.