Ymunwch â ni yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd rhwng 5 a 12 Awst 2023.

Dy Lais. Dy Senedd

Tyrd i glywed am waith y Senedd a phwy sy’n dy gynrychioli di a dy gymuned.   

Bydd cyfle i gwrdd ag Aelodau o’r Senedd yn ogystal â dweud dy ddweud am y materion sy’n bwysig i ti. Ymuno â ni mewn sesiwn galw heibio:

  • Dydd Mercher 9 Awst, 15:00: Jack Sargeant AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. 
  • Dydd Iau 10 Awst, 11:00: Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
  • Dydd Gwener 11 Awst, 11:00: Llŷr Gruffydd AS, Cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.

Beth am gymryd rhan drwy alw heibio stondin y Senedd (309) i ddweud Shwmae?!

  • Dyddiol, 14:00: Dysga am bwerau'r Senedd mewn sesiwn hwyliog gyda hetiau a gwisg ffansi. Sesiwn addas ar gyfer plant (yn enwedig disgyblion ysgolion cynradd). 
  • Dydd Gwener 11 Awst, 13:00: Cipolwg ar yr Archif Wleidyddol y Llyfrgell Genedlaethol o ddeunyddiau ymgyrchu a chasgliadau personol.

Ar y Maes

‘Criced, Caws a’r Clarinet: Sgwrs rhwng Y Llywydd a’r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd, Elin Jones AS yn cynnal sgwrs arbennig gyda’r Prif Weinidog Mark Drakeford AS ac yn ei holi am ei fagwraeth yng Nghaerfyrddin, ei gariad at gerddoriaeth, ei werthoedd a’i wleidyddiaeth, a’i berthynas gyda’r Gymraeg. 

Bydd cyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau ar ddiwedd y sesiwn.

Ble a phryd: Dydd Mercher 9 Awst, 11:30, Pabell y Cymdeithasau 2