Croesawu arwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru i’r Senedd

Cyhoeddwyd 13/09/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Croesawu arwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru i’r Senedd

13 Medi 2012

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru, yn croesawu arwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru i’r Senedd ar 14 Medi 2012.

Bydd aelodau Tîm Prydain a Thîm Paralympaidd Prydain yn gorymdeithio i’r Senedd lle y byddant yn cael eu cyfarch gan Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, a Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad.

Yr athletwyr sydd eisoes wedi cadarnhau y byddant yn bresennol yw:

  • Tom James, enillydd y fedal aur Olympaidd mewn rhwyfo;

  • Chris Bartley, enillydd y fedal arian Olympaidd mewn rhwyfo;

  • Mark Colbourne, enillydd medal aur a dwy fedal arian Paralympaidd mewn beicio;

  • Aled Davies, enillydd dwy fedal aur ac un fedal efydd Paralympaidd ym maes athletau, a;

  • Josie Pearson, enillydd medal aur Paralympaidd ym maes athletau.

Cyngerdd am ddim tu allan i’r Senedd o 16:30 – gyda cherddoriaeth gan y cyfansoddwr Lloyd Coleman ar ei glarinét, Band Pres Bwrdeistref y Fenni, Celtic Café ensemble a Chôr Meibion Glyn Ebwy. Buont oll yn rhan o’r Olympiad Diwylliannol ysbrydoledig yng Nghymru.   

Seremoni Croeso Adref athletwyr Olympaidd a Paralympaidd Cymru ar Facebook