Gwahoddir pobl Cymru i estyn croeso swyddogol i athletwyr Gemau'r Gymanwlad mewn dathliad yn y Senedd ym Mae Caerdydd am 17.00 ar 10 Medi.
Bydd yr athletwyr o dîm Cymru yn gorymdeithio i lawr Stryd Pierhead ym Mae Caerdydd cyn cael eu cyfarch gan y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, a Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, ar risiau'r Senedd.
Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Roedd perfformiad Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn rhagorol, ac enillwyd llawer mwy o fedalau na'r targed.
"Roedd Chwaraeon Cymru wedi gosod targedau anodd ar gyfer y gemau, ac fe dderbyniodd ein hathletwyr yr her a chyflawni perfformiad gorau erioed Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad gan ennill 36 medal.
"Maent wedi creu balchder ymysg pobl Cymru, felly mae dyletswydd arnom i roi croeso cynnes yn ôl iddynt ar risiau'r Senedd er mwyn i bobl Cymru ymuno â nhw i ddathlu eu llwyddiant."
Bydd adloniant yn dechrau y tu allan i'r Senedd am 17.00 cyn i'r Llywydd a'r Prif Weinidog gyfarch yr athletwyr am 18.20.
Gwahoddir y rhai sy'n dymuno bod yn bresennol i gyrraedd yn gynnar er mwyn sicrhau man ffafriol i wylio'r digwyddiad.
Dilynwch y digwyddiad ar Twitter gan ddefnyddio'r hashnod #TîmCymru.