Croesawu ymwelydd rhif 100,000 i’r Pierhead

Cyhoeddwyd 22/03/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Croesawu ymwelydd rhif 100,000 i’r Pierhead

22 Mawrth 2011

Heddiw (22 Mawrth) croesawodd y Pierhead yr 100,000fed ymwelydd ers iddo ailagor ym mis Mawrth 2010.

Daeth yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad, i gwrdd â Steve Rowlands o Flaendulais.

Mae’r adeilad rhestredig Gradd 1, sy’n eiddo i’r Cynulliad, wedi cael ei drawsnewid yn atyniad i ymwelwyr, a ddyluniwyd i argyhoeddi, cynrychioli ac ysbrydoli pobl pan fyddant yn ymweld â Bae Caerdydd.

Yn ogystal â chynnal digwyddiadau ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau, mae’r adeilad hefyd yn ategu gwaith y Cynulliad Cenedlaethol o ehangu cyfranogiad yn y broses wleidyddol.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, “Rydym yn falch ein bod wedi croesawu 100,000 o ymwelwyr i’r Pierhead. Mae’n adnodd sydd ar agor i bawb yng Nghymru.”

“Mae’r adeilad yn adrodd hanes Bae Caerdydd a datganoli drwy ddetholiad gwych o atyniadau rhyngweithiol i ymwelwyr.

“Mae hefyd yn annog pobl i gymryd rhan weithredol yn y broses wleidyddol drwy gofrestru eu barn ar y prif faterion sy’n cael eu trafod gan Aelodau’r Cynulliad.

“Mae’r Pierhead, hefyd, wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau allweddol, gan gynnwys Sesiynau’r Pierhead yn ystod y gwanwyn y llynedd, a’r sgwrs ddiweddar â Noam Chomsky.”

Dywedodd Steve Rowlands: “Alla i ddim credu hyn! Dim ond wedi dod i Gaerdydd am y dydd oeddwn i, alla i ddim credu mod i’n ymwelydd rhif 100,000!

Doeddwn i ddim hyd yn oed am ddod i mewn, ond pan welais i’r arwydd ‘mynediad am ddim’ benderfynais i fynd amdani. Rwy’n falch mod i wedi dod!”

Pierhead welcomes 100,000th visitor 22/3/2011 / Croesawu ymwelydd rhif 100,000 i’r Pierhead>