Siambr y Senedd

Siambr y Senedd

Cyfarfod Cyntaf y Senedd i’w gynnal ar 12 Mai

Cyhoeddwyd 10/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Bydd Cyfarfod Llawn cyntaf y Chweched Senedd yn cael ei gynnal am 3.00 o’r gloch ar brynhawn Mercher 12 Mai 2021.

Y dasg gyntaf i’r 60 Aelod o’r Senedd fydd ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd, ac yna enwebiadau ar gyfer Prif Weinidog, os bydd y Senedd yn penderfynu gwneud hynny.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal mewn fformat hybrid. Yn unol â’r rheoliadau Coronafeirws cyfredol, gall 20 o Aelodau fod yn bresennol yn y Siambr, a bydd y 40 sy’n weddill ymuno ar-lein (drwy gyfrwng Zoom) o'u swyddfeydd yn Nhŷ Hywel.

Bydd papurau pleidleisio yn cael eu defnyddio ar gyfer y bleidlais gyfrinachol i ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd. Bydd y bleidlais yn cael ei chynnal yn adeilad y Senedd, gyda phawb yn cadw pellter cymdeithasol.

Bydd yr agenda llawn yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Senedd a’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu yn fyw ar Senedd TV

Trefn Ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd

Rheol Sefydlog 6

Yn y cyfarfod cyntaf, ar 12 Mai, mae’n rhaid i'r Senedd ethol Llywydd yn gyntaf ac yna Dirprwy Lywydd.

Rhaid i hyn ddigwydd cyn pen 21 diwrnod ar ôl yr etholiad (a4 Deddf Etholiadau Cymreig (Coronafirws) 2021).

Mae'r gweithdrefnau yn union yr un fath ac fe'u hamlinellir isod:

  1. Mae'r Cadeirydd yn gwahodd enwebiadau.
  2. Rhaid i enwebiad gael ei eilio gan Aelod nad yw'n perthyn i'r un grŵp gwleidyddol â'r Aelod sy'n enwebu.
  3. Os mai dim ond un enwebiad sy’n cael ei gynnig, bydd y Cadeirydd yn cynnig ethol yr Aelod hwnnw. Os oes gwrthwynebiad, bydd pleidlais gudd yn digwydd. Os nad oes gwrthwynebiad, etholir yr Aelod.
  4. Os oes mwy nag un enwebiad, bydd pleidlais gudd yn digwydd. Os enwebwyd dau Aelod, etholir yr Aelod sy'n sicrhau'r nifer fwyaf o bleidleisiau a fwriwyd yn y balot.

Bydd y Cadeirydd (y Llywydd blaenorol os nad yw’n ymgeisydd neu Clerc y Senedd) yn cyhoeddi canlyniad yr etholiad i'r Senedd. Bydd yr Aelod a etholir yn Llywydd yn cymryd y cadair ar gyfer unrhyw eitemau busnes sy'n weddill, gan gynnwys ethol y Dirprwy Lywydd a fydd yn digwydd yn syth wedyn.

Wrth ethol Dirprwy, yn ôl y rheolau, mae’n rhaid i’r person fod yn aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol i’r Llywydd. Mae’n rhaid bod un yn aelod o grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol (h.y. mewn llywodraeth) a’r llall o grŵp gwleidyddol sydd ddim mewn llywodraeth.

Trefn Enwebiad y Prif Weinidog

Rheol Sefydlog 8

Rhaid i'r Senedd enwebu Aelod i'w benodi'n Brif Weinidog cyn pen 28 diwrnod ar ôl etholiad Senedd. Mae hyn yn digwydd ar ôl ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd.

Gwahoddir y Senedd gan y Llywydd i gytuno bod enwebiadau'n digwydd. Os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, gelwir pleidlais electronig. Bydd y broses enwebu yn digwydd dim ond os bydd mwyafrif yr Aelodau sy'n pleidleisio yn cytuno. Amlinellir y weithdrefn isod:

  1. Mae'r Llywydd yn gwahodd enwebiadau.
  2. Os mai dim ond un enwebiad sydd ar gael, bydd y Llywydd yn datgan mai'r Aelod hwnnw yw'r enwebai.
  3. Os oes mwy nag un enwebiad, gofynnir i'r Aelodau bleidleisio dros eu henwebai dewisol, trwy alwad ar y gofrestr.
  4. Os yw dau Aelod wedi'u henwebu, bydd yr Aelod sy'n sicrhau'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn cael ei ddatgan yn enwebai. Os yw mwy na dau Aelod wedi'u henwebu, bydd yr Aelod sy'n sicrhau mwy o bleidleisiau nag a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arall yn cael ei ddatgan yn enwebai.

Bydd y Llywydd yn cyhoeddi'r canlyniad i'r Senedd. Bydd y Llywydd yn argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi'r Aelod a enwebwyd gan y Senedd yn Brif Weinidog.