Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP). Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yw dydd Gwener 19 Mehefin.
Rhoddodd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ymgynghori ar Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, llunio cynllun o'r fath a'i gyhoeddi er mwyn i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo a'i fonitro.
Mae gan y pwyllgor ddiddordeb mewn clywed eich barn am:
- A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a'r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru;
- A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau'r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg);
- Trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo; a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn);
- A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill (er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith Fyw:Iaith Byw; Dechrau'n Deg; polisi cynllunio);
- A yw canlyniadau'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl (er enghraifft disgyblion cynradd / uwchradd, plant o gartrefi incwm isel)
Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad ar gael ar wefan y Pwyllgor.