Cyfle olaf i fynegi eich barn ar gynlluniau ar gyfer addysg Gymraeg

Cyhoeddwyd 16/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/07/2015

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP).  Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yw dydd Gwener 19 Mehefin.

Rhoddodd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ymgynghori ar Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, llunio cynllun o'r fath a'i gyhoeddi er mwyn i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo a'i fonitro.

Mae gan y pwyllgor ddiddordeb mewn clywed eich barn am:

  • A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a'r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru;
  • A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau'r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg);
  • Trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo; a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn);
  • A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill (er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith Fyw:Iaith Byw; Dechrau'n Deg; polisi cynllunio);
  • A yw canlyniadau'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl (er enghraifft disgyblion cynradd / uwchradd, plant o gartrefi incwm isel)

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad ar gael ar wefan y Pwyllgor.