Mae Senedd Cymru, unwaith eto, wedi’i chynnwys ymhlith y Deg Cyflogwr Gorau yn y DU i rieni a gofalwyr sy'n gweithio.
Mae'r elusen genedlaethol Working Families wedi cyhoeddi ei Phrif Gyflogwyr ar gyfer 2023, gan ddyfarnu lle i'r Senedd ar ei rhestr gystadleuol o gyflogwyr hyblyg ac ystyriol o deuluoedd yn y DU.
Bellach yn ei phedwaredd flynedd ar ddeg, mae cyflogwyr mawr a bach ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn cystadlu bob blwyddyn am le a chwenychir ar restr yr elusen.
Y Deg Uchaf eleni yw (yn nhrefn yr wyddor):
- Archwilio Cymru
- Citigroup
- Coleg Imperial Llundain
- Cymdeithas Adeiladu Swydd Efrog
- Grant Thornton
- Grŵp NatWest
- Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Pinsent Masons
- Senedd Cymru
- Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Gogledd-ddwyrain Llundain (NELFT)
Aseswyd cyflogwyr gan ddefnyddio Meincnod Working Families, a chawsant eu sgorio ar bedwar maes allweddol i lunio darlun cynhwysfawr o'u polisïau ac arferion hyblyg ac ystyriol o deuluoedd sy'n cefnogi rhieni a gofalwyr yn benodol.
Dysgwch fwy am yr elusen Working Families a'i gwaith
Mae'r Senedd yn cynnig amrywiaeth o fuddion cynhwysol a hyblyg, i gefnogi pobl â chyfrifoldebau gofalu i ffynnu yn y gweithle.
Mae gweithio hyblyg, polisïau absenoldeb rhiant, a rhwydweithiau iechyd a llesiant yn rhai o’r ffyrdd y mae gweithwyr yn cael eu cefnogi i gadw cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ochr yn ochr â chyfleoedd dysgu a datblygu i symud ymlaen yn eu gyrfa.
Dysgwch fwy am sut mae Senedd Cymru yn cynnig amgylchedd gwaith cadarnhaol a chynhwysol