interns

interns

Rhaglen Interniaeth y Senedd 2032-24

Cyhoeddwyd 02/03/2023   |   Amser darllen munudau

Mae nawr yn bosibl gwneud cais i Ymlaensef rhaglen interniaeth â thâl yng Nghomisiwn y Senedd ar gyfer graddedigion o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig.

Mae’r Senedd yn gweithio unwaith eto mewn partneriaeth â Chymrodoriaeth Windsor, ac yn cynnig pedwar lle ar y rhaglen hyfforddi 12 mis. Mae’r rhaglen yn cynnwys swyddi ym meysydd TGCh, Cyfreithiol, Ymchwil ac yng Nghyfarwyddiaeth Busnes y Senedd.

Bydd yr interniaid llwyddiannus yn hyfforddi wrth wraidd gwleidyddiaeth Cymru, gan ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth am y ffordd orau o ddysgu am, a chynorthwyo gweithle prysur a chyffrous lle mae deddfau Cymru yn cael eu llunio.

Y nod ar ddiwedd y rhaglen 12 mis yw bod gan yr interniaid y sgiliau, y profiad a'r gallu sydd eu hangen arnynt i barhau â'u gyrfaoedd naill ai yng Nghomisiwn y Senedd neu mewn man arall.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a gwneud cais am yr interniaeth yma.