Roedd yna cyflwyniad ffurfiol o'r ddeiseb: Gostwng yr Oedran ar gyfer Profion Ceg y Groth i 18 ar dydd Mawrth 16 Mehefin am 13.00.
Geiriad y ddeiseb:
'Mae canser ceg y groth ar fy merch 18 oed, ac nid ydym am i'r terfyn oedran ar gyfer profion ceg y groth olygu bod hyn yn digwydd i ferched eraill. Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog i Lywodraeth Cymru ostwng yr oedran ar gyfer y profion o 25 i 18.
'Ym mis Mawrth 2014, a hithau'n ddim ond 18 oed, cafodd fy merch Jessica Bradford ddiagnosis bod canser ceg y groth arni. Oherwydd ei hoedran, gwrthodwyd iddi gael prawf ceg y groth. Cafodd Jessica yr holl bigiadau rhag canser ceg y groth yn yr ysgol. Mae Jessica yn mynd i ysbyty canser Felindre yng Nghymru, lle cafodd ei thriniaeth - cemotherapi bum gwaith, radiotherapi 30 gwaith, a radiotherapi mewnol dair gwaith. Oherwydd y driniaeth hon ni fydd Jessica byth yn gallu cario ei phlant ei hun. Mae Jessica a finnau wedi sefydlu tudalen ar Facebook i godi ymwybyddiaeth o dan yr enw 'Jess Bradford's cervical cancer awareness'. Ers creu'r dudalen, rydym wedi cyfarfod llawer o famau sydd wedi colli eu merched oherwydd canser ceg y groth.
Rydym hefyd yn casglu llofnodion ar Change.org yn deisebu Llywodraeth y DU ar y mater hwn. Casglwyd tua 96,000 o lofnodion hyd yn hyn.'