Heddiw mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad Cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno darpariaeth addysg ddigonol ar wleidyddiaeth a democratiaeth yn holl ysgolion y wlad. Mae hyn yn gysylltiedig â'r cynnig i ganiatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol, gan ddilyn y cam a gyflwynwyd yn Neddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) i ostwng oed pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2021.
Mae'r Pwyllgor wrthi'n ystyried cynigion ym Mil Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru i ehangu hawliau pleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol i bobl ifanc 16 ac 17 oed, yn unol â'r hyn sy'n digwydd yn etholiadau'r Senedd. Mae'r Pwyllgor wedi clywed pryderon na fydd pobl ifanc yn defnyddio eu hawl i bleidleisio, o bosibl, oni bai bod camau'n cael eu cymryd i godi eu hymwybyddiaeth wleidyddol ac i roi addysg wleidyddol ddigonol iddynt.
Mae Llywodraeth Cymru yn honni y gallai'r profiad o bleidleisio ennyn diddordeb pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth ddemocrataidd ac y byddant yn parhau i ymgysylltu â'r byd gwleidyddol wedyn.
Mae mwyafrif y Pwyllgor o blaid y cynigion i ganiatáu i bobl ifanc 16 oed bleidleisio mewn etholiadau lleol.
Rhannu swydd
Ymhlith mesurau eraill yn y Bil, y mae cynnig i rai uwch gynghorwyr, sef Arweinwyr ac aelodau Gweithredol eraill, rannu swyddi. Y nod yw sicrhau bod y swyddi hyn o fewn gafael rhagor o bobl a gwella amrywiaeth ym myd llywodraeth leol.
Mae'r Pwyllgor yn cefnogi'r cynnig hwn ac yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn diwygio'r Bil i ganiatáu i amrywiaeth ehangach o swyddi gael eu rhannu. Mae hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried pa mor ymarferol fyddai i ddau unigolyn sefyll mewn etholiad ac ymgymryd â gwaith cynghorydd drwy rannu'r swydd.
Cynnal etholiadau'n ddwyieithog
Roedd y Comisiynydd Iaith yn pryderu am y ffaith nad yw swyddogion canlyniadau, sef y rhai sy'n gyfrifol am gynnal etholiadau, yn gorfod cydymffurfio â dyletswyddau iaith statudol. Dywedodd y Comisiynydd nad oes unrhyw reidrwydd statudol o ran y Gymraeg ar swyddogion etholiadol felly mae'r modd y mae'r swyddogion hynny'n ymdrin â'r iaith yn amrywio ac nid yw profiad siaradwyr Cymraeg yn cyfateb i brofiad pobl ddi-gymraeg.
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y cyfle yn y Bil hwn i sicrhau cysondeb ar hyd a lled Cymru o ran cynnal etholiadau'n ddwyieithog, yn unol ag egwyddorion Mesur y Gymraeg 2011.
John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau:
"Mae pobl ifanc rwy'n cwrdd â nhw'n aml yn frwdfrydig ac yn cael eu hysgogi i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth gan nifer o resymau gwahanol. Rwy'n falch bod mwyafrif y Pwyllgor o blaid ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 a 17 oed, ac mae'n gyffrous bod Cymru yn arwain y gad yn hynny o beth. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod hyn yn digwydd law yn llaw ag addysg ym maes gwleidyddiaeth a democratiaeth. Dylai pobl ifanc wybod am eu hawl i bleidleisio a'i bwysigrwydd.
"Mae'n bwysig bod sefyll etholiad ac ymgymryd â rôl cynghorydd lleol yn rhywbeth sydd o fewn gafael pawb. Mae bywyd yn brysur a gall fod yn anodd ymgymryd â rôl cynghorydd ar ben gwaith a bywyd teuluol. Dyna pam rydym yn credu y byddai rhannu swydd yn ffordd ddiddorol o annog rhagor o bobl i ystyried sefyll etholiad. Os ydym o ddifri ynglŷn â gwella amrywiaeth yn ein cynghorau lleol, mae'n rhaid i ni ei gwneud hi'n haws i bobl sefyll mewn etholiadau a gwneud y swydd.
"Mae ein Pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac yn argymell bod y Cynulliad yn ei dderbyn."
Dywedodd Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru:
"Mae ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 a 17 oed yn gyfle gwych i greu cenhedlaeth newydd o bleidleiswyr ifanc gwybodus sy'n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth. Dim ond drwy sicrhau bod addysg wleidyddol well yn cael ei chyflwyno yn holl ysgolion Cymru, a bod athrawon yn cael cymorth ychwanegol, y gallwn wneud hyn.
"Mae ein gwaith gyda phobl ifanc yn dangos eu bod yn llawn cynnwrf a brwdfrydedd ac yn fwy na pharod i bleidleisio. Ond nid yw hynny, ynddo'i hun, yn ddigon. Mae angen i ni eu cynorthwyo drwy sicrhau bod adnoddau addysgiadol ar gael sy'n rhoi hwb i'w hyder ac yn eu paratoi i bleidleisio. Mae angen iddyn nhw gael mwy o wybodaeth nag oedd ar gael i ni pan oeddem ni'n pleidleisio am y tro cyntaf. Rydym yn wirioneddol falch fod y Pwyllgor yn argymell hyn ac yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnwys y mesurau hyn yn y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)."