Mae deiseb yn galw am ragor o goed mewn trefi wedi'i chyflwyno i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Geiriad y ddeiseb:
Rwy'n cefnogi'r dyhead y dylai pob dinas, tref a phentref yng Nghymru fanteisio ar o leiaf 20% o orchudd canopi coed, i gyd fynd â maestrefi deiliog y lleoedd gorau i fyw
Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi hyn drwy sefydlu cronfa her ar gyfer plannu coed er mwyn gwella'r amgylchedd lle mae pobl yn byw
Dylai hyn gefnogi'n arbennig, plannu coed brodorol a all ddarparu cynefin a ffynhonnell neithdar i bryfed peillio, a hefyd coed ffrwythau, a fydd yn darparu ffynhonnell gynaliadwy o fwyd.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod i mi os ydych yn gallu dod.
Dechreuwyd y ddeiseb gan Coed Cadw ac mae 2,258 wedi'i llofnodi.
Mae deiseb yn ffordd o ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried unrhyw fater, problem neu gynnig y mae gan y Cynulliad y pŵer i wneud rhywbeth yn ei gylch.
Mae rheolau'r Cynulliad yn golygu bod yn rhaid iddo ystyried unrhyw ddeiseb y mae'r Llywydd o'r farn sy'n dderbyniadwy. Mae'r Cynulliad wedi sefydlu Pwyllgor Deisebau i ystyried deisebau derbyniadwy a phenderfynu pa gamau i'w cymryd.
Rhagor o wybodaeth am system ddeisebau'r Cynulliad Cenedlaethol.