Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi cael deiseb yn galw ar Drenau Arriva Cymru i sicrhau bod y trên am 7 pm tua’r gogledd o Fachynlleth yn galw yn yr holl orsafoedd ar gais.
Mae’r ddeiseb yn datgan:
“Trenau Arriva Cymru! Rydym yn gofyn i chi gadarnhau bod y trên am 7 o’r gloch (Mach-Pwllheli) yn stopio rhwng pob gorsaf os oes gofyn.”
Cyflwynwyd y ddeiseb, sydd wedi casglu 384 o lofnodion, i aelodau’r Pwyllgor Deisebau ddydd Mawrth 12 Gorffennaf.