Cyflwyno deiseb yn galw am ragor o arian ar gyfer practis cyffredinol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 24/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cyflwynwyd deiseb yn swyddogol ddoe i Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am gynnydd yng nghyfradd cyllideb y GIG a gaiff ei wario ar bractis cyffredinol yng Nghymru.

Dr Paul Myers, Cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, gyflwynodd y ddeiseb i'r Pwyllgor, ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd am 13.00 ddydd Mawrth 23 Medi.

Mae'r ddeiseb wedi casglu 15,000 o lofnodion ar bapur a thros 500 o lofnodion electronig a gasglwyd ar wefan e-ddeiseb.

Mae union eiriau'r ddeiseb fel a ganlyn:

Er mai meddygon teulu sy'n cynnal 90 y cant o'r holl ymgynghoriadau â chleifion y GIG, dim ond 8.39 y cant o gyllideb y GIG yn y DU a gaiff ei ddyrannu iddynt - y ganran isaf erioed. Erbyn 2017, rhagwelir y bydd hyn yn gostwng i 7.29 y cant .

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth meddygon teulu yn wynebu argyfwng cynyddol.

Oherwydd llwyth gwaith affwysol ein meddygon teulu, eleni'n unig, bydd yn rhaid i gleifion aros dros wythnos i weld eu meddyg teulu mewn o leiaf 27 miliwn o achosion.

Ac, yn ôl arolwg a gynhaliwyd ym mis Mawrth, mae mwy na thri o bob pump yn awr yn credu bod nifer yr ymgynghoriadau a gaiff meddyg teulu â'i gleifion - hyd at 60 y dydd - yn bygwth safon y gofal a gaiff y claf.

I sicrhau gwasanaeth o safon i bob claf, galwaf ar Brif Weinidog Cymru i godi'r gyfran o gyllideb y GIG a gaiff ei gwario ar y gwasanaeth meddygon teulu yng Nghymru i 11 y cant erbyn 2017.

Byddai'r cynnydd hwn yn galluogi meddygfeydd i sicrhau:

  • Nad oes yn rhaid aros mor hir am apwyntiadau a bod modd cynnig oriau agor mwy hyblyg; 
  • ymgynghoriadau hirach, yn enwedig i gleifion sydd â chyflyrau tymor hir;
  • mwy o gyfle i gleifion weld meddyg teulu sy'n eu hadnabod;
  • cynllunio a chydgysylltu gofal yn well, yn enwedig i'r henoed a chleifion ag anghenion cymhleth;
  • Manteision a fydd yn gwella'r GIG yn gyffredinol, gan leihau'r baich ar yr ysbytai.

Mae meddygfeydd yn rhan ganolog o gymunedau lleol. Galwaf ar Lywodraeth Cymru i weithredu'n awr i sicrhau bod gan feddygfeydd yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i barhau i ddarparu gofal o'r safon uchel y mae cleifion yn ei haeddu.