Cyfranogwyr Cynllun Cysgodi ACau Ymgyrch y Bleidlais Ddu i raddio

Cyhoeddwyd 01/07/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyfranogwyr Cynllun Cysgodi ACau Ymgyrch y Bleidlais Ddu i raddio

Bydd Ymgyrch y Bleidlais Ddu sef Cynllun Cysgodi Aelodau’r Cynulliad am 2007/2008 yn dod i ben ddydd Mercher 2 Gorffennaf gyda seremoni raddio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.      

Gwelodd y cynllun, a lansiwyd ym mis Hydref 2007 naw o bobl dduon neu bobl o leiafrifoedd ethnig o bob rhan o Gymru’n cysgodi Aelodau’r Cynulliad o bob un o’r pedair prif blaid.  Roedd y prosiect, a oedd â’r nod o annog rhai o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd a chynyddu nifer Aelodau’r Cynulliad sy’n dod o’r cefndiroedd hynny, yn dilyn cynlluniau llwyddiannus i gysgodi Aelodau Seneddol, Ynadon a Chynghorwyr.

Bu’r cyfranogwyr, sy’n dod o amrywiaeth eang o gymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig, yn cysgodi Aelodau’r Cynulliad am leiafswm o wyth niwrnod dros gyfnod o chwe mis er mwyn cael profiad o fywyd fel Aelod Cynulliad, ac i helpu Aelodau’r Cynulliad ddeall anghenion eu hetholwyr duon neu rai o leiafrifoedd ethnig.  Treuliodd llawer, fodd bynnag, lawer mwy o amser yn gweithio gyda’u mentoriaid ac maent wedi elwa’n fawr o’r cynllun.  Cafodd un cyfranogwr, Mari Rees, ei dewis eisoes fel darpar ymgeisydd seneddol a safodd amryw o’r lleill fel ymgeiswyr yn etholiadau lleol 2008. Enillodd y cynllun hefyd Wobr Wleidyddol Sianel 4 am Ddemocratiaeth.  

Bydd Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn siarad yn y seremoni raddio, ynghyd â Simon Woolley, Cyfarwyddwr Ymgyrch y Bleidlais Ddu, ac Ann Jones, AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal.         

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rwy’n edrych ymlaen at nodi cwblhad Cynllun Cysgodi Aelodau’r Cynulliad, Ymgyrch y Bleidlais Ddu, yn ffurfiol.  Rwy’n llongyfarch y rhai a gymerodd ran yn y cynllun cysgodi ac sydd erbyn hyn wedi graddio o’r cynllun, ynghyd ag Aelodau’r Cynulliad a gymerodd ran yn y prosiect arloesol hwn.  Mae’r profiad wedi bod o fudd i’r Cynulliad ac i’r rhai a gymerodd ran yn y cynllun.  Mae’r cyfranogwyr wedi arsylwi cyfarfodydd pwyllgor y Cynulliad, wedi bod yn bresennol yng nghyfarfodydd mewnol y pleidiau, wedi gwylio Aelodau’n gweithio mewn cymorthfeydd yn eu hetholaethau ac ar ymweliadau.  Yn ei dro, mae’r Cynulliad wedi dysgu sut y gallwn wella’r cysylltiad â’n cymunedau lleol o ran gwaith y Cynulliad a sut y gallwn fynd i’r afael â diffyg cyfranogiad pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig mewn democratiaeth.”

Rhagor o wybodaeth am Ymgyrch y Bleidlais Ddu