Cyhoeddi adolygiad y Pwyllgor Archwilio ar y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru

Cyhoeddwyd 21/10/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyhoeddi adolygiad y Pwyllgor Archwilio ar y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi cymryd camau pendant i fynd i’r afael â’r problemau difrifol iawn mae’n eu hwynebu ond mae’n dal angen datrys heriau mewnol ac allanol sylweddol, yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Archwilio’r Cynulliad Cenedlaethol.                                               

Mae Adolygiad y Pwyllgor o Wasanaethau Ambiwlans yng Nghymru, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth, Hydref 21), yn dod i’r casgliad y bydd cynllun moderneiddio’r Ymddiriedolaeth yn ei helpu i ymdrin â rhai o’r heriau sefydliadol a systemig angenrheidiol, er y bydd yn cymryd amser i gynnydd sydyn a chynaliadwy ddigwydd.

Mae’r adolygiad yn pwysleisio nifer o broblemau mewnol sy’n parhau’n rhwystr i welliannau ddigwydd.  Yn eu plith mae:

  • Diffyg ysbryd ymhlith staff;

  • Cynnydd siomedig o ran gwella ansawdd a gallu rheolwyr llinell;

  • Rhai agweddau annerbyniol o ran perfformiad, er gwaethaf gwelliannau cyffredinol yn ymatebion ambiwlansiau;

  • diffyg strategaeth ystadau manwl a phroblemau gydag adeiladau’r sefydliad.

Mae’r Adroddiad yn argymell bod yr Ymddiriedolaeth yn datblygu cynllun gweithredu a gynlluniwyd yn benodol i wella ysbryd y staff trwy gyfres o weithredoedd, yn cynnwys gwella’r cyfathrebu rhwng yr Ymddiriedolaeth a’i staff gweithredol a rhoi sylw i fwlio ac aflonyddu canfyddedig.  Mae’r Adroddiad yn argymell hefyd y dylai gwella technoleg cyfathrebu yn yr ambiwlansiau eu hunain fod yn flaenoriaeth amlwg ac mae’n argymell yn gryf y dylai Llywodraeth y Cynulliad ystyried a phenderfynu achos busnes yr Ymddiriedolaeth ar gyfer y technolegau hyn yn ddi-oed. Mae’r Adroddiad hefyd yn cynnig argymhellion mewn cysylltiad â’r swyddogaeth ystadau, o ran ei ddealltwriaeth o ofal heb ei drefnu ac i ddileu amrywiadau rhwng gwahanol leoliadau yng Nghymru.

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Mae’r Prif Swyddog Gweithredol a Bwrdd yr Ymddiriedolaeth wedi gwneud yn dda i ymateb i’r hyn sydd wedi bod yn amser llawn heriau mawr i’r sefydliad ac maent wedi gwneud camau pendant ymlaen mewn amgylchiadau anodd. Yr ydym yn ddiolchgar am yr asesiad agored ac onest o sefyllfa’r Ymddiriedolaeth ar hyn o bryd yn ystod y sesiynau tystiolaeth. Mae’r Pwyllgor o’r farn gref, fodd bynnag, fod angen gwneud mwy eto trwy ddatblygu arweinwyr, llenwi swyddi a chryfhau swyddogaethau anweithredol yn y cyfnod nesaf. Yr ydym yn dra ymwybodol hefyd fod llawer o’r heriau sy’n wynebu’r Ymddiriedolaeth yn ganlyniad i broblemau systemig yn y modd mae’r system gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithredu yng Nghymru na all yr Ymddiriedolaeth eu datrys ar ei phen ei hun.”

Bydd copïau o’r adroddiad ar gael yn: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third1/bus-committees-third-ac-home/bus-committees-third-ac-report.htm

Ar gyfer cyfweliadau’r cyfryngau :

 cysylltwch os gwelwch yn dda ag Emyr Williams ar y rhifau isod.

Dalier sylw:

Bydd Alan Murray, Prif Swyddog Gweithredol y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru, yn ymddangos i roi’r diweddaraf i’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ddydd Mercher, Hydref 22 October am 9am.

Nodyn i Olygyddion:

  1. Ym mis Mehefin 2006, pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnal ymchwiliad i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (yr Ymddiriedolaeth). Arweiniwyd yr ymchwiliad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr Archwilydd Cyffredinol) a chyhoeddodd ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2006.[2] Cyhoeddodd y Pwyllgor Archwilio ei adroddiad ei hun ym mis Mawrth 2007.[3] Yr oedd y ddau adroddiad yn disgrifio’r problemau difrifol a pharhaus o fewn yr Ymddiriedolaeth ond yn dod i’r casgliad y gallai’r problemau hyn gael eu datrys mewn amser, cyhyd ag y bo heriau mewnol ac allanol amrywiol yn cael eu datrys. Fe wnaeth yr Archwilydd Cyffredinol 28 argymhelliad ar gyfer gwelliant. Cyhoeddodd Bwrdd yr Ymddiriedolaeth ei gynllun moderneiddio, Amser i Wneud Gwahaniaeth, ym mis Ionawr 2007.

  2. Ym mis Rhagfyr 2007, gwahoddodd y Gweinidog dros Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Stuart Fletcher, i gynnal adolygiad yn canolbwyntio ar gynnydd yn ôl 28 argymhelliad yr Archwilydd Cyffredinol.  Ehangwyd cwmpas yr adolygiad i gynnwys trafodaeth am weithdrefnau rheoli haint yr Ymddiriedolaeth a chryfder Amser i Wneud Gwahaniaeth a’r cynnydd a wnaethpwyd yn ôl y camau gweithredu yn yr adroddiad hwnnw. Cyfrannodd yr Archwilydd Cyffredinol at adolygiad y Cadeirydd drwy ddilyn pob cynnydd yn erbyn ei argymhellion gwreiddiol a’r rhai a wnaethpwyd gan y Pwyllgor Archwilio.

  3. Ar sail yr adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol,[4] buom yn edrych a oedd yr Ymddiriedolaeth mewn sefyllfa i fedru cyflawni’r gwelliannau sy’n ofynnol yn ei adroddiad gwreiddiol, ein hadroddiad dilynol ac yn ôl cynllun moderneiddio’r Ymddiriedolaeth.  Clywsom dystiolaeth gan Mrs Ann Lloyd, Pennaeth yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, Alan Murray, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a                Tim Woodhead, Cyfarwyddwr Cyllid yr Ymddiriedolaeth.