Cyhoeddi adroddiad ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Cyhoeddwyd 24/06/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyhoeddi adroddiad ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Heddiw, mae Pwyllgor y Cynulliad ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl wedi cyhoeddi ei adroddiad ar y gorchymyn arfaethedig sy’n cefnogi’r cais i bwerau deddfu dros iechyd meddwl gael eu trosglwyddo o San Steffan i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Byddai’r gorchymyn arfaethedig yn caniatáu i’r Cynulliad basio Mesurau i wella’r modd o asesu a thrin pobl sydd ag anhwylderau iechyd meddwl cyn y bydd yn rhaid eu cadw’n orfodol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Byddai hefyd yn caniatáu i’r Cynulliad roi’r hawl i bobl gael mynediad at wasanaeth eiriolaeth annibynnol i’w helpu i wneud penderfyniadau pwysig am eu triniaeth a’r cymorth bydd ei angen arnynt yn gynharach wedi iddynt fynd yn sâl.

Dyma’r Gorchymyn cyntaf i gael ei gynnig gan Aelod nad yw’n rhan o’r Llywodraeth. Cynigiodd Jonathan Morgan AC y Gorchymyn ar ôl ennill balot o’r holl Aelodau Cynulliad y llynedd.

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y pwyllgor, “Mae Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn faes pwysig ac emosiynol iawn ar adegau. Ar ôl ymgynghori’n eang a gwrando’n ofalus ar farn rhanddeiliaid yn ystod y broses graffu, barn gref y pwyllgor yw y dylai’r Cynulliad gael y pwerau i ddeddfu yn y maes hwn.

“Clywsom dystiolaeth rymus gan bobl y bu’n rhaid eu cadw’n orfodol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a sefydliadau iechyd meddwl am eu profiadau o wasanaethau iechyd meddwl a sut y byddai cael gafael ar driniaeth a gofal cymdeithasol yn gynharach wedi bod o help i gleifion. Un o’n hargymhellion allweddol yw y bydd angen i unrhyw Fesur sy’n mynd i’r afael â’r mater hwn yn y dyfodol gwmpasu dyletswyddau’r gwasanaeth iechyd yn ogystal â dyletswyddau awdurdodau lleol, ac yn arbennig rhai’r gwasanaethau cymdeithasol. Byddai hyn yn sicrhau eu bod yn cydweithio mewn ffordd gydlynol i ddarparu “triniaeth a gofal” – nid ymyrraeth feddygol yn unig – i bobl ag anhwylderau meddyliol a fyddai’n eu helpu i wella ac i gael eu hadsefydlu a gallai eu rhwystro rhag wynebu argyfwng personol a chael eu cadw’n orfodol.

“Mae’r gorchymyn arfaethedig wedi cael cefnogaeth eang gan sefydliadau iechyd meddwl a darparwyr gwasanaethau a chafwyd cefnogaeth drawsbleidiol gan aelodau’r pwyllgor sydd wedi bod yn enghraifft ardderchog o graffu effeithiol a chydweithio rhwng y pleidiau. Cafwyd cefnogaeth hefyd gan y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.”

Sefydlwyd y pwyllgor ym mis Mawrth i ystyried y Gorchymyn arfaethedig a chyflwyno adroddiad arno. Ymgynghorwyd yn eang ar draws y maes gwasanaethau iechyd meddwl er mwyn llywio gwaith y pwyllgor. Yn ogystal, bu’n casglu tystiolaeth lafar gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Cymdeithas y Cyfreithwyr; Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol; Coleg Brenhinol y Nyrsys, Cymru; Coleg Brenhinol y Seiciatryddion; Mind; Gofal Cymru; Hafal; Cymar a Chyngor Iechyd Cymuned Caerdydd.

Yn ei adroddiad, mae’r pwyllgor yn cytuno, mewn egwyddor, y dylai Deddf Llywodraeth Cymru 2006 gael ei diwygio i roi pwerau newydd i’r Cynulliad. Byddai hyn yn golygu y câi wneud ei gyfreithiau ei hun, a elwir yn Fesurau’r Cynulliad, a hynny ym maes gwasanaethau iechyd meddwl. Aiff ymlaen i gyflwyno nifer o argymhellion gan gynnwys un sy’n awgrymu y dylai’r Gorchymyn arfaethedig hefyd gyfeirio at “ofal” yn ogystal â “thriniaeth” er mwyn adlewyrchu’r amrywiaeth o wasanaethau y gallai fod eu hangen er mwyn sicrhau bod yr unigolyn yn gwella ac yn cael ei adsefydlu.