Heddiw (dydd Iau 4 Mehefin 2020) mae'r Bwrdd Taliadau Annibynnol wedi cyhoeddi ei Benderfyniad sy'n nodi'r tâl a'r lwfansau sydd ar gael i Aelodau o'r Senedd yn dilyn etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2021.
Nod rhai o'r newidiadau a gynhwysir yn y Penderfyniad hwn yw sicrhau nad yw'r cymorth a'r tâl a gynigir i'r Aelodau yn atal pobl rhag sefyll etholiad i'r Senedd. Ymgynghorodd y Bwrdd ar newidiadau o'r fath yn gynharach eleni ac mae'r darpariaethau newydd yn y Penderfyniad hwn yn cynnwys:
- Lwfans i'r Aelodau i helpu i dalu costau mewn perthynas ag anabledd neu anableddau. Mae hwn yn ehangu'r ddarpariaeth sy'n bodoli eisoes.
- Adnoddau ychwanegol i helpu gyda llwyth gwaith Aelod yn ystod cyfnod o absenoldeb rhiant.
- Cyfraniad tuag at gostau gofal i blant a / neu ddibynyddion pan fydd yn ofynnol i'r Aelodau weithio y tu hwnt i oriau sy'n ystyriol o deuluoedd, gan adlewyrchu trefniadau tebyg sydd ar waith ar gyfer aelodau awdurdodau lleol yng Nghymru. Byddai ad-dalu costau o'r fath yn ddarostyngedig i derfyn misol penodol, a dim ond yn daladwy am ofal a ddarperir gan ddarparwyr gofal rheoleiddiedig.
Mae'r Penderfyniad hefyd yn adlewyrchu penderfyniadau'r Bwrdd ar gyflogau'r Aelodau ar gyfer y Senedd nesaf sy'n seiliedig ar bwysigrwydd a chymhlethdod rolau'r Aelodau a maint eu cyfrifoldebau. Mae'n debygol y bydd datblygiadau cyfansoddiadol presennol yn effeithio ar y Senedd maes o law, er enghraifft sut y mae pwerau'n cael eu dychwelyd yn dilyn Brexit a'r posibilrwydd y bydd newidiadau i faint y Senedd fel sy'n cael ei drafod gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd. Fodd bynnag, nid yw effaith newidiadau posibl o'r fath ar rolau a chyfrifoldebau'r Aelodau yn glir ar hyn o bryd. Felly, mae'r Bwrdd wedi penderfynu y dylid cynnal y trefniadau cyflog presennol ar gyfer y Senedd nesaf.
Mae paratoi'r Penderfyniad hwn wedi'i lywio gan ymchwil a gomisiynwyd gan y Bwrdd i'r rhwystrau a'r cymhellion i sefyll etholiad i'r Senedd, yn ogystal ag ymgynghori â'r Aelodau etholedig, eu staff, pleidiau gwleidyddol, rhanddeiliaid a'r cyhoedd.
Mae'r Bwrdd wedi ymrwymo i gyhoeddi'r Penderfyniad hwn tua blwyddyn cyn yr etholiad er mwyn rhoi eglurder ar y tâl a'r cymorth a fydd ar gael i'r rhai sy'n ystyried sefyll etholiad os cânt eu hethol yn Aelodau o'r Senedd.
Ceir gwybodaeth bellach ar wefan y Bwrdd Taliadau Annibynnol.