Cyhoeddiad y BBC ar newyddiaduraeth leol – Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Cyhoeddwyd 03/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae Bethan Jenkins AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi’r datganiad canlynol mewn ymateb i gyhoeddiad gan y BBC ynghylch gohebwyr lleol:

"Roedd ein hadroddiad ar ddarlledu yn rhybuddio’n gryf yn erbyn canlyniadau anfwriadol ymgorffori newyddiadurwyr y BBC mewn sefydliadau newyddion lleol, ac yn awgrymu'n gryf y dylai’r BBC adolygu ei chynlluniau’n feirniadol, oherwydd roedd y Pwyllgor yn credu y gallai arwain at ostyngiad pellach o ran nifer y gohebwyr mewn ystafelloedd newyddion ledled Cymru.

"Rydym yn awyddus iawn i weld rhagor o fanylion ar y cynnig hwn, i benderfynu a yw wedi ymdrin â’r pryderon a godwyd gennym. Rydym wedi awgrymu yn hytrach defnyddio gwasanaeth penodol y gellid ei ddarparu i sefydliadau cyfryngau lleol ar faterion lle mae newyddiaduraeth leol wedi dirywio, fel newyddion am gynghorau a llysoedd. Hoffem weld a fyddai'r BBC yn barod i ystyried y cynnig hwn cyn cyflwyno'r fenter hon."