Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod unrhyw gyllid ar gyfer Undeb Rygbi Cymru yn y dyfodol yn cydymffurfio â phob agwedd ar y strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a’r Contract Economaidd, meddai Pwyllgor Chwaraeon y Senedd heddiw.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu sut mae Gweinidogion a gweision sifil yn ymateb i bryderon sy’n cael eu codi gyda nhw am ymddygiad amhriodol mewn sefydliadau yng Nghymru.
Yn gynharach eleni, galwodd y Pwyllgor ar Ieuan Evans, cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker, y prif weithredwr dros dro, a Dawn Bowden AS, y Dirprwy Weinidog yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am chwaraeon, i ateb cwestiynau hollbwysig am yr cyhuddiadau. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd gan swyddogion Chwaraeon Cymru.
Heddiw, mae Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn y Senedd wedi cyhoeddi adroddiad, yn dilyn sesiynau tystiolaeth a edrychodd ar gyhuddiadau yn ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru (URC).
Mae'r adroddiad yn amlinellu nifer o argymhellion ar gyfer URC a Llywodraeth Cymru yn dilyn rhaglen ddogfen y BBC ym mis Ionawr 2023 a ymdriniodd â chyhuddiadau difrifol o rywiaeth, casineb at fenywod, homoffobia a hiliaeth yn URC.
Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor:
“Rydym yn glir: os nad yw sefydliadau’n cydymffurfio â strategaethau i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a thrais rhywiol, yna ni ddylen nhw gael arian trethdalwyr.
“Roedd y materion a gafodd eu codi yn rhaglen y BBC yn peri cryn bryder ac, yn sgil ein gwaith casglu tystiolaeth, rydym wedi darparu argymhellion heddiw i Undeb Rygbi Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.
“Mae’n rhaid i chwaraeon bob amser fod yn lle croesawgar i bawb, ac mae’r Pwyllgor yn benderfynol o sicrhau bod pawb sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a phawb sy’n gweithio yn y maes hwnnw yng Nghymru yn gallu gwneud hynny heb ofn rhagfarn na gwahaniaethu.
“Rydym yn falch hyd yn hyn o weld rhywfaint o gynnydd a’r camau cychwynnol y mae Undeb Rygbi Cymru wedi eu cymryd. Fel Pwyllgor, byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r Undeb ac â Llywodraeth Cymru ynglŷn â’u cynnydd i fynd i’r afael â’r materion hyn.”